Datblygiad yn Kenya, Affrica
Mae Kenya ar y cyhydedd ar arfordir dwyreiniol Affrica, wrth Gefnfor India. Nairobi yw’r brifddinas. Mae ganddi boblogaeth o dros 46 miliwn. Mae’n boblogaeth amrywiol iawn sy’n cynnwys dros 40 o grwpiau ethnig, gan gynnwys y Kikuyu, y Luo a’r Maasai.
Mae Kenya yn enghraifft o gwlad incwm isel (LIC)Ar sail dosbarthiadau incwm Banc y Byd, mae gan wledydd incwm isel (low income country: LIC) incwm gwladol crynswth (IGC y pen) o $1,045 neu is.. Mae’r Incwm Gwladol Gros (GNI) yn $1,290 i bob person, o gymharu â $42,000 i bob person yn y DU. Mae’r disgwyliad oes yn 62 oed a’r gyfradd marwolaethau babanod yn 36 i bob 1,000. Mae 75 y cant o’r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig, mae’r rhan fwyaf yn ffermwyr ar raddfa fach a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw mewn tlodi.
Mae bwlch mawr rhwng incwm y bobl sy’n byw yn iseldiroedd y gogledd-ddwyrain (sy’n tueddu i ddioddef o sychder), y rhai sy’n byw ar yr ucheldiroedd yn y de-orllewin, y rhai sy’n byw ar y llain arfordirol a’r rheini sy’n byw mewn slymiau yn Nairobi.
Effeithiau twristiaeth ar yr economi
Mae twristiaeth yn hollbwysig i economi Kenya. Mae gwledydd incwm isel (LICs) fel Kenya yn awyddus i ddenu twristiaid er mwyn hybu datblygiad. Roedd Kenya yn un o’r LICs cyntaf i ddatblygu ei ddiwydiant twristiaeth. Mae’n wlad sy’n siarad Saesneg ac mae hyn wedi helpu i hybu twristiaeth yno. Teithiodd dros 1.3 miliwn o ymwelwyr i Kenya yn ystod 2011, y flwyddyn brysuraf, gan wario £600 miliwn.

Atyniadau
Mae hinsawdd Kenya yn boeth ac mae’r wlad ar yr arfordir. Mae ei pharciau saffari, ei riffiau cwrel a’i thraethau tywodlyd yn gwneud y wlad yn boblogaidd iawn ymysg twristiaid.
Effeithiau cadarnhaol twristiaeth
- Safonau byw gwell, gyda mwy o ysgolion ac ysbytai.
- Mae’r gyfnewidfa dramor yn caniatáu i’r wlad brynu nwyddau wedi’u mewnforio.
- Isadeiledd wedi’i wella.
- Mae parciau saffari yn gwarchod anifeiliaid rhag potswyr ac yn gallu atal rhywogaethau rhag diflannu.
- Gall llwythau lleol ennill arian drwy werthu crefftau, ee llwyth Maasai.
Effeithiau negyddol twristiaeth
- Mae’r swyddi’n rhai dros dro ac yn talu cyflogau isel.
- Cwmnïau amlwladol o dramor sy’n berchen ar 80 y cant o’r gwestai a’r cwmnïau teithio, felly mae’r rhan fwyaf o’r elw yn mynd yn ôl i wledydd mwy cyfoethog.
- Mae llwythau nomadaidd yn cael eu gorfodi i setlo er mwyn cael swyddi. Efallai y bydd ffyrdd traddodiadol o fyw yn cael eu colli er mwyn gwneud bywoliaeth.
- Mae bysiau’r parciau anifeiliaid yn erydu pridd ac yn newid ymddygiad yr anifeiliaid gwyllt.
- Mae gwestai’n defnyddio llawer o ddŵr, sy’n adnodd gwerthfawr.
Twristiaeth gynaliadwy
Mae twristiaeth eisoes wedi dechrau dirywio. Mae’r etholiadau arlywyddol dadleuol yn 2007 a’r ymosodiadau terfysgol yn 2013 a 2014 wedi arwain at leihad aruthrol yn nifer yr ymwelwyr. Oherwydd ansefydlogrwydd gwleidyddol, troseddu treisgar, aflonyddu ar dwristiaid, gor-fasnacheiddio parciau saffari a dirywiad amgylcheddol mae llawer o dwristiaid wedi penderfynu peidio ag ymweld â’r wlad.
Mae llywodraeth Kenya yn gweithredu i geisio atal y dirywiad drwy wneud y canlynol:
- rhoi cyfyngiad ar nifer yr ymwelwyr sy’n cael dod i barciau anifeiliaid a pharciau morol
- hybu twristiaeth gynaliadwy lle mae ymwelwyr yn dod mewn grwpiau bach
- defnyddio pobl leol fel tywyswyr
- rhoi cyfyngiad ar uchder datblygiadau ar yr arfordir
- addysgu twristiaid i barchu arferion lleol