Achosion a chanlyniadau datblygiad anghyson – CBACDatblygiad y byd

Mae’r byd wedi datblygu’n wahanol iawn mewn gwahanol ardaloedd a chyfandiroedd. Mae modd gweld canlyniadau datblygiad anghyson yn glir drwy archwilio gwahanol ardaloedd a gwledydd o amgylch y byd.

Part ofDaearyddiaethMaterion datblygiad ac adnoddau

Datblygiad y byd

Gellir diffinio datblygiad y byd fel safon byw sy’n effeithio ar wledydd y byd. Cyfeirir ato’n aml fel datblygiad byd-eang. Mae sawl math o ddosbarthiad cysylltiedig â lefelau datblygiad y byd, fel a . Yn syml, mae’n hawdd rhannu’r byd i ardaloedd cyfoethog a thlawd, ond mewn gwirionedd mae continwwm datblygiad, sef graddfa symudol sy’n amrywio o gyfoethog iawn i dlawd iawn.

  • Y Continwwm Datblygiad – y raddfa llinol sy’n dangos y llwybr tuag at ddatblygiad sy’n amrywio o LICs i HICs.
  • Y Bwlch Datblygiad – y bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

Mae poblogaeth y byd yn cynyddu’n gyflym ac roedd poblogaeth y byd yn 7.3 biliwn ym mis Awst 2017. Mae’r cyfraddau twf poblogaeth uchaf mewn gwledydd incwm isel (LICs), fel Zimbabwe, Malawi a Niger. Mae poblogaeth rhai gwledydd yn lleihau, er enghraifft, Japan, Rwsia ac Wcráin.

Mae economïau gwledydd incwm isel (LICs) yn wahanol iawn i economïau gwledydd incwm uchel (HICs). Mewn HICs, mae gan lawer o bobl swyddi ffurfiol lle mae ganddyn nhw oriau penodedig, cyflog misol, amodau gwaith iach ac maen nhw’n talu trethi. Ar y llaw arall, mae pobl mewn LICs yn aml yn gweithio mewn swyddi amaethyddol ac anffurfiol, lle does ganddyn nhw ddim oriau na chyflog penodedig, dydy eu hamodau gwaith nhw ddim yn iach a dydyn nhw ddim yn talu llawer o dreth, os o gwbl.

O ganlyniad i hyn, mae cyferbyniad enfawr rhwng incwm cyfartalog gwledydd neu eu GNI (Incwm Gwladol Gros).

Mae’r map yn dangos rhai o ddinasoedd global y byd a’r grŵp incwm maen nhw’n perthyn iddo.

Map yn dangos dinasoedd global y byd.

More guides on this topic