Datblygiad ym Mumbai, India
Mae India yn enghraifft o gwlad newydd ei diwydianeiddio (NIC)Gwlad sy’n dod yn gyfoethocach, fel arfer am ei bod wedi dechrau cynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau i wledydd eraill.. Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn symud i ddinas Mumbai o ardal wledigCefn gwlad.. Mae Mumbai yn ddinas fasnach bwysig yn India a’i bloc masnach. Mae llawer o gwmnïau amlwladol wedi’u lleoli yma, fel Coca-Cola a Tata Steel. Mae’r rhain yn darparu cyflogaeth ac yn creu incwm ledled yr ardal.
Mae pobl yn symud i Mumbai oherwydd bod gan y ddinas lawer o ffactor tynnuFfactor sy’n denu pobl i symud i le newydd.. Mae pobl yn meddwl y bydd y ddinas yn darparu llawer o gyfleoedd, fel rhai:
- cymdeithasol – tai a gwasanaethau gwell, ee iechyd ac addysg
- economaidd – mwy o swyddi a chyflogau uwch
- amgylcheddol – amodau byw gwell ac amgylchedd mwy diogel (trychinebau naturiol yn llai tebygol)
Mae pobl sy’n symud yn credu y byddan nhw’n cael ansawdd bywyd gwell. Fodd bynnag, mae dinasoedd fel Mumbai yn wynebu llawer o heriau, a dydy’r bobl sy’n symud yno ddim bob amser yn cael ansawdd bywyd gwell. Gall rhai o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu gynnwys rhai:
- cymdeithasol – amodau tai gwael a throsedd
- economaidd – cyflogau isel neu ddiweithdra
- amgylcheddol – dŵr yfed wedi’i lygru a diffyg glanweithdra
Un broblem sy’n codi o ganlyniad i mudo gwledig-trefolPobl yn symud o gefn gwlad i ardaloedd dinesig. yn gyflym yw bod sgwatwyr yn datblygu. Ym Mumbai, mae dros filiwn o bobl yn byw yn anheddiad sgwatwyr Dharavi. Mae Dharavi rhwng dwy reilffordd ac mae’n un o’r aneddiadau i sgwatwyr mwyaf yn y byd. Dydy’r anheddiad i sgwatwyr ddim wedi’i gynllunio ac mae ganddo’r nodweddion canlynol:
- gorlawn, swnllyd a drewllyd
- tai wedi’u gwneud o gardfwrdd, pren, haearn rhychiog, dalennau plastig a metel o ddrymiau olew
- diffyg glanweithdra a dŵr yfed glân
- carthffosydd agored
- llygredd ac afiechydon yn gyffredin
- miloedd o weithdai a phobl yn cael eu cyflogi yn y sector swyddi anffurfiolSwyddi arian mewn llaw lle na fydd pobl yn talu trethi i’r llywodraeth.

Gwella aneddiadau sgwatwyr
Mae Brasil hefyd yn enghraifft o NIC. Ym Mrasil, mae aneddiadau sgwatwyr wedi cael eu gwella drwy cynllun hunangymorthMath o raglen anffurfiol sy’n galluogi pobl i helpu eu hunain a’u cymdogion i wella eu cartrefi mewn gwledydd sy’n datblygu.. Drwy’r cynlluniau hyn mae preswylwyr yn gwella eu cartrefi gyda chymorth gan yr awdurdod lleol. Er enghraifft, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn darparu deunyddiau adeiladu rhad ar fenthyg i’r preswylwyr, i’w prynu’n nes ymlaen. Y trigolion sy’n gwneud yr holl welliannau i’w cartrefi eu hunain.
Effeithiau cwmnïau amlwladol (MNCs) ym Mumbai.
Mae Mumbai yn ganolfan fasnachu hanfodol yn economi India ac Asia. Mae llawer o gwmnïau mawr yn lleoli eu hunain ym Mumbai i fanteisio ar gyflogau is, llai o ymyrraeth gan y llywodraeth a chostau rhentu is. Er bod y manteision economaidd mae’r cwmnïau hyn yn eu cael o fod yn India yn golygu bod cyflogau a chyfleoedd am swyddi ar gynnydd yn y wlad, mae nifer o fygythiadau sylweddol yn dod yn sgil MNCs yn ymsefydlu mewn NICs hefyd.
Effeithiau Coca-Cola yn India

Mae Coca-Cola yn un o’r MNCs mwyaf adnabyddus yn y byd. Mae modd gweld y brand mewn dros 200 o wledydd, ac amcangyfrifir bod 95 y cant o boblogaeth y byd yn adnabod y logo enwog.
Manteision Coca-Cola ym Mumbai
- Mae Coca-Cola wedi buddsoddi dros $2 biliwn yn India ers 2011 ac mae’n cyflogi tua 25,000 o bobl yn swydd uniongyrcholPan fydd pobl yn gweithio i gwmni ac yn cael eu talu gan y cwmni., a dros 1 miliwn yn swydd anuniongyrcholPobl sy’n elwa o Coca Cola (neu unrhyw fusnes) ond sydd ddim yn cael eu cyflogi gan y cwmni, ee gall gwmni cludiant wneud arian o ddosbarthu cynhyrchion Coke heb fod yn eiddo i Coca Cola..
- Mae hyn yn golygu bod gweithwyr yn talu mwy o dreth i Lywodraeth India, sy’n yn creu effaith luosydd gadarnhaolPan fydd newid cadarnhaol yn digwydd, sydd wedyn yn effeithio ar fusnesau eraill. Er enghraifft, gallai swyddfa newydd agor gan arwain at gynnydd yn nifer y brechdannau amser cinio a werthir yn y caffi lleol a mwy o deithwyr ar y bysiau..
- Rhoddir cyfleoedd i weithwyr ddatblygu sgiliau, ac mae llawer o gyrsiau hyfforddiant i brentisiaid yn cael eu darparu i bobl leol.
- Mae Cymdeithas Coca-Cola yn rhoi cymorth ariannol i faterion lleol fel rhaglenni i godi ymwybyddiaeth o gyffuriau, rhaglenni darparu cymorth ar ôl trychinebau a rhaglenni ailgylchu.
Anfanteision Coca-Cola ym Mumbai
- Un o’r prif fygythiadau cysylltiedig â Coca-Cola yw bod y cwmni yn lleihau cyflenwadau dŵr daear ledled yr ardal. Mae ffermwyr lleol yn honni eu bod wedi gorfod tyllu 250 troedfedd i lawr i gael dŵr oedd modd ei gyrraedd 50 troedfedd i lawr o’r blaen. Mae dŵr yn elfen hanfodol mewn Coca-Cola.
- Dywedir bod y tir wedi cael ei ‘wenwyno’ hefyd, oherwydd bod y gwastraff slwtsh sy’n cael ei greu wrth gynhyrchu’r ddiod y cael ei ganfod yn y cyflenwad dŵr ac ar dir amaethyddol.
- Mae llawer o’r gweithwyr yn cael eu gorweithio a dydyn nhw ddim yn cael digon o dâl. Maen nhw hefyd yn gweithio dan amodau na fyddai bob amser yn pasio rheoliadau iechyd a diogelwch mewn gwledydd gorllewinol fel y DU.
- Mae yfed Coca-Cola hefyd yn cynyddu problemau cysylltiedig ag iechyd oherwydd bod y ddiod yn cynnwys llawer o siwgr a chaffîn, sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau iechyd ym Mumbai a ledled India.