Achosion a chanlyniadau datblygiad anghyson – CBACPam mae’r byd wedi datblygu’n anghyson?

Mae’r byd wedi datblygu’n wahanol iawn mewn gwahanol ardaloedd a chyfandiroedd. Mae modd gweld canlyniadau datblygiad anghyson yn glir drwy archwilio gwahanol ardaloedd a gwledydd o amgylch y byd.

Part ofDaearyddiaethMaterion datblygiad ac adnoddau

Pam mae’r byd wedi datblygu’n anghyson?

Mae llawer o ffactorau sydd yn, ac sydd wedi, arwain at ddatblygiad anghyson y byd. Maen nhw’n amrywio o ffactorau dynol hanesyddol fel gwrthdaro (rhyfel) ac ansefydlogrwydd gwleidyddol, i ffactorau ffisegol fel hinsawdd, a pheryglon naturiol. Mae’n bwysig cydnabod a deall yr amrywiaeth o ffactorau geo-wleidyddol, gan gynnwys masnach fyd-eang fel un o’r materion pwysicaf sy’n effeithio ar ddatblygiad gwledydd heddiw.

Dwy babell bedwin a chamelod yn y blaen ger twyni tywod enfawr sy’n llawer mwy na nhw.
Image caption,
Gall ffactorau ffisegol fel hinsawdd effeithio ar lefel datblygiad

More guides on this topic