Angladdau dyneiddiol
Mae angladdau dyneiddiwrMae dyneiddwyr yn credu mai profiad dynol a meddwl rhesymol yw unig ffynonellau gwybodaeth a chod moesol. yn canolbwyntio ar y gwahanu oddi wrth y person marw ac ar y galar mae ffrindiau a theulu'r ymadawedig yn ei deimlo. Mae cofio’r pethau da a wnaeth yr ymadawedig a’i brofiad bywyd yn helpu’r galar hwn. Mae’r ffocws ar yr ymadawedig a’i fywyd ar y Ddaear.
Weithiau bydd cannwyll yn cael ei chynnau i atgoffa pobl o sut effeithiodd yr ymadawedig ar eu bywydau nhw. Does dim cynnwys crefyddol, na dim awgrym fod y person yn fyw o hyd, heblaw drwy atgofion y ffrindiau y mae wedi’u gadael ar ôl a thrwy effaith y pethau da a wnaeth.
Defodau marwolaeth seciwlar
Mae'r arch yn cael ei chroesawu i’r man lle mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal, a bydd gweinydd y gwasanaeth yn croesawu’r galarwyr. Bydd y galarwyr yn aml yn gwrando ar hoff gerddoriaeth yr ymadawedig, neu’n cydganu â hi.
Bydd ffrind agos neu berthynas fel arfer yn rhannu digwyddiadau pwysig o fywyd y person marw, i ddangos cymaint o wahaniaeth a wnaeth y person i’r teulu, ffrindiau a’r gymuned. Weithiau, bydd rhai pobl yn cynnwys ambell elfen grefyddol, fel gweddi gyfarwydd neu symbol crefyddolGwrthrychau a thestunau sydd ag ystyr arbennig i bobl grefyddol..
Mae llawer o bobl yn teimlo does dim angen elfen gref o grefydd, yn enwedig os doedd yr ymadawedig ddim yn dilyn crefydd arbennig. Prif ganolbwynt defodau marwolaeth seciwlar yw dathlu bywyd yr ymadawedig, a pheidio â chyfeirio at unrhyw gredoau ynghylch beth sy’n digwydd yn y byd nesaf.
Gan nad oes cynllun penodol, mae pob angladd yn gallu bod yn eithaf gwahanol. Dyma enghraifft o drefn angladd dyneiddiol:
- cerddoriaeth agoriadol
- croesawu’r galarwyr
- myfyrio ar fywyd a marwolaeth o safbwynt anghrefyddol
- teyrnged yn disgrifio personoliaeth a bywyd yr ymadawedig
- darlleniadau, er enghraifft barddoniaeth a thestunau anghrefyddol fel arfer
- myfyrdod – cyfle i’r galarwyr feddwl am yr ymadawedig
- traddodi – dyma pryd bydd y llenni yn cael eu cau ar yr arch neu pryd fydd yr arch yn cael ei gollwng i’r ddaear
- geiriau i gloi, er enghraifft diolch i’r galarwyr ar ran yr ymadawedig
- cerddoriaeth anghrefyddol i gloi
Rhodri Morgan
Bu farw cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, ym Mai 2017. Cynhaliwyd angladd dyneiddiol iddo yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Cafodd y gwasanaeth angladdol ei arwain gan yr offeiriad dyneiddiol, Lorraine Barrett, cyn-aelod Cynulliad yn y Senedd. Rhoddodd Carwyn Jones, olynydd Rhodri Morgan yn Brif Weinidog Cymru, deyrnged iddo drwy ddarllen cerdd Dylan Thomas Do not go gentle into that good night... Yr unig gân grefyddol yn yr angladd oedd Calon Lân a gafodd ei chanu gan ŵyr ifanc Rhodri Morgan. Daeth y gwasanaeth i ben drwy ganu anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad fy Nhadau.
Dyma ddathliad o’i fywyd trwy eiriau, barddoniaeth a cherddoriaeth.