Safbwyntiau anghrefyddolDamcaniaeth esblygiad

Mae crefydd a gwyddoniaeth yn gofyn gwahanol fathau o gwestiynau am y bydysawd a’i darddiad. Mae’r rhan fwyaf o grefyddau’n croesawu darganfyddiadau gwyddonol ond mewn ffyrdd gwahanol i’w gilydd.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Damcaniaeth esblygiad

Charles Darwin's theory of evolution
Figure caption,
Esblygiad bodau dynol o hynafiaid tebyg i epaod dros filiynau o flynyddoedd

Yn 1859, cyhoeddodd Prydeiniwr o’r enw lyfr o’r enw On the Origin of Species. Seiliodd y llyfr hwn ar ei astudiaethau o greaduriaid yr oedd wedi dod ar eu traws wrth deithio i lawer o lefydd tramor, gan gynnwys . Cynigiodd ddamcaniaeth fod pob creadur byw sy’n bodoli heddiw, gan gynnwys bodau dynol, wedi dros gyfnod o efallai filiynau o flynyddoedd, o ffurfiau bywyd mwy cyntefig i’w ffurf bresennol trwy broses o . Enw arall ar y datblygiad rhywogaethau damweiniol hwn yw esblygiad dall.

Roedd gan Darwin radd mewn gwyddor natur o Brifysgol Caergrawnt ac roedd yn ddaearegwr. Roedd yn Gristion hefyd. Nid bwriad Darwin oedd herio credoau crefyddol gyda’i lyfr ond ymatebodd llawer o gredinwyr crefyddol iddo’n ffyrnig iawn. Dyma rai o’r rhesymau:

  • roedd damcaniaeth esblygiad fel petai’n mynd yn groes i ddysgeidiaethau crefyddol mai Duw a greodd y Ddaear a phob peth byw, fel yr oedden nhw'n eu hadnabod
  • roedd Cristnogion yn credu bod Duw wedi creu bodau dynol ar 'ddelwedd o Dduw', bod bodau dynol uwchlaw pob creadur arall a bod ganddyn nhw enaid sy’n anfarwol
  • roedd damcaniaeth esblygiad yn herio’r syniad mai Duw yw pensaer y bydysawd a bod prydferthwch, trefn a chymhlethdod y bydysawd yn dystiolaeth o hyn ().
  • roedd y syniad fod pethau byw’n ymaddasu i’w hamgylchedd yn groes i’w cred fod Duw wedi creu’r amgylchedd perffaith ar eu cyfer
  • yn ôl y Beibl, cafodd bodau dynol eu creu ar chweched dydd y creu, nid dros gyfnod o filiynau o flynyddoedd

Cafodd y damcaniaethau gwyddonol hyn eu cynnig am y tro cyntaf yn y 19eg ganrif, pan oedd Cristnogaeth yn ddylanwad pwysig ar fywydau pobl a’r ffordd roedden nhw'n meddwl. Roedd llawer o bobl yn gweld y damcaniaethau fel ymosodiad uniongyrchol ar eu ffydd. Wynebodd Charles Darwin feirniadaeth gan bobl oedd yn methu derbyn yr hyn roedden nhw'n eu gweld fel ei syniadau ‘gwrth-grefydd’.

Richard Dawkins

Mae Richard Dawkins yn fiolegydd enwog ac yn anffyddiwr hefyd. Mae’n frwd o blaid damcaniaeth esblygiad. Un o’i brif ddadleuon yw petai’r byd wedi’i ‘gynllunio’, fel mae rhai pobl yn ei honni, pwy gynlluniodd y cynlluniwr? I Dawkins, mae damcaniaeth Darwin ar ddethol naturiol yn datrys y cwestiwn o ble daeth bodau dynol. Gan nad yw’n credu yn Nuw, mae Dawkins yn dadlau nad oes ar esblygiad angen help gan fod uwch.

Mae eglurhad llawer mwy cryno i’r rhith o gynllun yn y byd byw... sef dethol naturiol yn unol â damcaniaeth Darwin.
Richard Dawkins

Pysgodyn Darwin

Symbol yw pysgodyn Darwin sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl sy’n credu yn namcaniaeth esblygiad Darwin. Mae’n amrywiad ar y symbol Ichthus a oedd yn cael ei ddefnyddio'n draddodiadol gan Gristnogion i ddangos eu ffydd mewn modd cudd. Mae’r symbol Ichthus yn cynrychioli pysgodyn. Mae pysgodyn Darwin yn debyg o ran cynllun ond mae traed wedi’u hychwanegu i gynrychioli esblygiad.

Darwin fish symbol.