Therapi genynnol
Gyda therapi genynnol, mewnosodir copïau o alelUn o sawl ffurf ar enyn penodol. normal i mewn i cromosomYr adeiledd sydd wedi ei wneud o DNA sy’n codio ar gyfer holl nodweddion organeb. unigolyn sy’n cludo’r alel ffibrosis cystig diffygiol. Nid yw bob amser yn llwyddiannus, ac mae ymchwil yn parhau.
Mae’n anghyfreithlon mewnosod genynnau i gelloedd rhyw, achos byddai unrhyw newidiadau’n cael eu hetifeddu gan epil yr unigolyn. Yn hytrach, defnyddir therapi genynnol ar gelloedd y corff. Mae hynny’n golygu y gallai’r unigolyn basio’r alel diffygiol ymlaen i’w blant/phlant, hyd yn oed os yw’n gwella ei hun.
Y broses sylfaenol
Dyma gamau sylfaenol therapi genynnol ar gyfer ffibrosis cystig:
- torri’r alel normal allan – defnyddir ensymau arbennig i wneud hyn
- gwneud nifer o gopïau o’r alel
- rhoi copïau o’r alel normal i mewn i gelloedd unigolyn sydd â’r anhwylder arno
Problemau posibl
Y cam olaf yw’r prif anhawster fel arfer. Dyma rai o’r problemau a all ddigwydd:
- hwyrach na fydd yr alelau’n mynd i mewn i bob cell darged
- gall yr alelau uno â’r cromosomau mewn mannau od, a pheidio gweithio’n iawn oherwydd hynny
- gall celloedd a gafodd driniaeth gael eu disodli’n naturiol gan gelloedd y claf ei hun sydd heb eu trin
Dulliau gwahanol
Defnyddir gwahanol ddulliau i gael yr alelau i mewn i gelloedd y claf, gan gynnwys:
- defnyddio liposomau sef defnynnau o saim mewn chwistrellau trwyn
- defnyddio firysau annwyd sydd wedi’u haddasu i gludo’r alel – aiff y firysau i mewn i’r celloedd a’u heintio
- pigiad DNA uniongyrchol
Materion sy'n codi o ddatblygu a defnyddio therapi genynnol
Gall ymchwil i therapi genynnol i drin ffibrosis cystig fod yn ddrud iawn. Os yw’r therapi’n llwyddiannus, dim ond am gyfnod byr bydd yn gweithio gan fod celloedd epithelial y bibell wynt sy'n derbyn y genyn yn cael eu treulio’n gyson. Felly, nid yw'n ateb tymor hir am fod angen ailgyflwyno’r genyn yn barhaus.
Dyma ffactorau eraill i'w hystyried.
- Efallai bydd y claf yn ymateb yn imiwn i'r genyn a gyflwynwyd.
- Mae'r therapi yn cynnig gobaith i gleifion i fyw bywyd normal, ond nid oes wastad sicrwydd bydd hyn yn digwydd.
- Mae grwpiau crefyddol yn credu na ddylai pobl gael eu trin yn enetig.