MwtaniadFfibrosis cystig

Sut all genynnau newid? Achosir mwtaniadau gan sawl ffactor, a gallant achosi anhwylderau genetig. Sut all therapi genynnau helpu i drin yr anhwylderau hyn?

Part ofBiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Ffibrosis cystig

Anhwylder etifeddol yw ffibrosis cystig sy’n creu mwcws gludiog. Mae’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r pancreas yn bennaf. Caiff ei achosi gan alel enciliol. Mewn diagram genetig:

  • gellir dangos yr alel enciliol ar ffurf f
  • gellir dangos yr alel trechol ar ffurf F

Yn enghraifft un, mae’r ddau riant yn heterosygaidd Ff – maent yn gludwyr y clefyd. Mae hyn yn golygu bod alel ffibrosis cystig ganddynt ac y gallent ei drosglwyddo i’w plant. Ond mae ganddynt alel normal trechol hefyd, felly nid ydynt yn dioddef o’r clefyd eu hunain. Mae siawns 1 mewn 4, neu 25%, y byddant yn cynhyrchu plentyn â ffibrosis cystig arno.

Tabl gyda’r rhesi wedi’u labelu fel Tad (F, f) a'r colofnau wedi’u labelu fel Mam (F, f). Mae holl gelloedd y tabl yn cynnwys FF, Ff, Ff a ff

Yn enghraifft dau, dim ond un rhiant (y tad) sydd â chopi o’r alel enciliol. Does dim siawns iddynt gynhyrchu plentyn â ffibrosis cystig arno. Ond bydd hanner yr epil posibl yn homosygaidd, FF, a hanner yn heterosygaidd, Ff. Cymhareb FF i Ff yw 1:1, neu 50%.

Tabl gyda’r rhesi wedi’u labelu fel Tad (F, f) a'r colofnau wedi’u labelu fel Mam (F, F). Mae holl gelloedd y tabl yn cynnwys FF, FF, Ff a Ff

Coed teulu

Anhwylder etifeddol yw ffibrosis cystig. Caiff ei basio i lawr drwy’r cenedlaethau a gellir ei olrhain mewn coed teulu.

Coeden deulu ffibrosis cystig yn dangos y bobl sy’n cario a’r bobl sy’n dioddef

Os bydd gwryw heb ffibrosis cystig (FF) a benyw sy’n gludydd (Ff) yn atgenhedlu, gallant gynhyrchu epil sydd naill ai ddim yn cludo alel ffibrosis cystig (FF), neu sy’n gludwyr (Ff). Ystyr hyn yw nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau o’r clefyd ond y gallant drosglwyddo alel y clefyd i’w hepil.

Os bydd yr epil sy’n gludydd yn atgenhedlu gyda chludydd arall, yna bydd eu plant naill ai ddim yn cludo’r alel o gwbl (FF), neu’n gludwyr (Ff), neu’n dioddef o glefyd ffibrosis cystig (ff).