Sut wnaeth Prydain baratoi ar gyfer rhyfel?
Y lluoedd arfog

Cyn dechrau’r rhyfel roedd y Llywodraeth wedi gwneud cynlluniau oherwydd y peryglon oedd ar y gorwel. Roedd y Llywodraeth wedi:
- dechrau rhaglen o adeiladu llongau rhyfel newydd
- gwario arian yn hysbysu pobl am ddogni bwyd, blacowts a mygydau nwy
- sefydlu’r Weinyddiaeth Cyflenwadau er mwyn sicrhau bod y cyflenwadau dramor yn parhau
- cyfarfod ag Undebau Llafur er mwyn sicrhau eu bod yn cytuno â rheoliadau a chyflogau gweithio adeg rhyfel
Ond, yn 1939 nid oedd Prydain wedi paratoi’n ddigonol i frwydro mewn rhyfel mawr, a byddai’n cymryd amser i gael lluoedd mor anferthol ac effeithiol â rhai’r Almaen.
- Y Llynges Frenhinol oedd y sefydliad oedd yn fwyaf parod ar gyfer y rhyfel.
- Roedd yr Awyrlu Brenhinol (Royal Air Force, RAF) wedi eu hyfforddi'n dda ac roedd ganddo awyrennau da oherwydd mai’r Hurricane a’r Spitfire oedd yr awyrennau rhyfel gorau yn y byd, ond nid oedd bomwyr y RAF mor fodern.
- Roedd rhai yn credu bod y fyddin yn rhy fach ac nad oedd ganddi offer digonol.
Drwy ddyhuddo Hitler ym Medi 1938, roedd gan y wlad 12 mis ychwanegol i baratoi at ryfel. Ar ôl y datganiad ym Medi 1939, galwyd y chwe mis dilynol yn ‘rhyfel ffug’ oherwydd ni chymerwyd camau milwrol, a rhoddodd hynny fwy o amser i Brydain baratoi.
Wardeiniaid, llochesau a radar
Roedd yna bryder mawr y byddai nifer o bobl gyffredin yn colli eu bywydau oherwydd bod yr Almaenwyr yn bomio dinasoedd ym Mhrydain.
Roedd y LuftwaffeAwyrlu’r Almaen. yn fygythiad milwrol grymus. Ofnwyd y byddai miliwn o bobl yn marw - archebwyd miliwn o eirch rhag ofn. Roedd pobl wedi gweld lluniau o’r chwalfa a achosodd y Luftwaffe yn Guernica, tref a fomiwyd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yn 1936.
Yn ystod 1937, crëwyd Gwasanaeth Wardeiniaid Cyrchoedd Awyr ac roedd 200,000 o bobl wedi ymuno erbyn 1938. Erbyn Medi 1939, newidiwyd ei enw i Ragofalon Ymosodiadau o’r Awyr (Air Raid Precautions, ARP) a chofrestrodd 1.5 miliwn. Defnyddiwyd y term Amddiffyn Sifil (Civil Defence) yn ogystal.

Roedd raid iddyn nhw gofrestru’r holl bobl a oedd yn byw yn eu sector, gorfodi blacowts, seinio’r seirenau, helpu pobl i fynd i’r llochesau a helpu’r gwasanaethau brys.

Er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn diffodd eu golau yn ystod y nos pan oedd bomwyr Yr Almaen yn bomio’r dinasoedd, roedd wardeiniaid yn cerdded o gwmpas y strydoedd ac yn rhybuddio pobl i wneud hynny. Roedd wardeiniaid ARP hefyd yn helpu i roi trefn ar y gwasanaethau brys.
