Polisi dyhuddo Prydain
Diffiniad dyhuddo
Roedd Neville Chamberlain, Prif Weinidog Prydain, yn awyddus i osgoi rhyfel. Roedd yn credu y gellid sicrhau hynny drwy drafodaethau, cytundebau a diplomyddiaeth. Ei bolisi oedd dyhuddo Hitler, a oedd fel arfer yn golygu ildio i’w ofynion tiriogaethol.
Enghreifftiau o ddyhuddo
I Brydain, roedd hynny’n cynnwys peidio â ‘bod yn llym’ gyda’r Almaen pan oedd yn ailarfogi ac yn gwladychu'r Rheindir a Tsiecoslofacia.

Yr enghraifft fwyaf enwog o ddyhuddiad oedd Chamberlain yn llofnodi cytundeb Munich a arweiniodd at yr Almaen yn cipio Sudetenland oddi wrth Tsiecoslofacia. Roedd Chamberlain yn gobeithio y byddai hynny’n rhoi terfyn ar ofynion Hitler, er bod gwleidyddion eraill megis Churchill wedi rhybuddio fel arall.
Poblogrwydd polisi dyhuddo

Roedd yn boblogaidd ac fe'i croesawyd gan dyrfaoedd llawen oherwydd ei fod wedi osgoi rhyfel, ac fe’i gwahoddwyd i Balas Buckingham gan y Brenin a’r Frenhines.
Ar y cychwyn roedd dyhuddiad yn boblogaidd oherwydd:
- roedd pobl yn dymuno osgoi gwrthdaro - roedd yr atgofion am y Rhyfel Mawr a’r dioddefaint yn dal i fodoli
- roedd Prydain yn y 1930au yn straffaglu ag effeithiau’r Dirwasgiad, ac oherwydd hynny ni allai’r wlad fforddio rhyfel arall ac arfogi trwm
- roedd nifer yn credu bod Cytundeb Versailles wedi bod yn rhy lym, a bod gan yr Almaen hawl i geisio adennill tiroedd a gollwyd ac ailadeiladu ei lluoedd a wanhawyd
Y rhyfel yn dechrau - Medi 1939
Oherwydd y Cytundeb Natsi-Sofiet, roedd Hitler yn gwybod na fyddai’r Undeb Sofietaidd yn ei atal rhag cymryd Gwlad Pwyl. Croesodd milwyr yr Almaen i Wlad Pwyl ar 1 Medi 1939.

Roedd Prydain eisoes wedi rhoi sicrwydd i Wlad Pwyl trwy arwyddo Cytundeb Gwarant â Gwlad Pwyl, ac felly anfonodd wltimatwmGorchymyn terfynol a wneir gan berson, grŵp o bobl neu wladwriaeth mewn anghydfod, a allai arwain at chwalu cysylltiadau neu rym gormodol os caiff ei wrthod. a nodai bod raid i’r Almaen adael Gwlad Pwyl. Ni dderbyniodd Prydain ymateb, ac felly ar 3 Medi 1939 datganodd Chamberlain bod Prydain mewn rhyfel yn erbyn Yr Almaen.