Y Cytundeb Natsi-Sofiet, 1939
Roedd Hitler eisiau adfer Danzig i’r Almaen a hefyd dychweliad y Coridor Pwylaidd. Roedd Prydain a Ffrainc wedi sylweddoli erbyn hyn nad oedd modd dyhuddo Hitler a gwnaethant ymrwymiad i amddiffyn Gwlad Pwyl.
Ym mis Awst, llofnododd yr Almaen Natsïaidd a’r Undeb Sofietaidd gytundeb i beidio ag ymosod ar ei gilydd. Addewid i beidio ymladd oedd hyn. Aeth Joachim von Ribbentrop, Gweinidog Tramor yr Almaen, i Foscow gydag awdurdod llawn i negodi cytundeb. Dywed y cytundeb yn gyhoeddus na fydd ymladd rhwng y ddwy wlad am ddeng mlynedd ac mae’n gwneud cytundebau economaidd.
Ond roedd elfennau cyfrinachol i’r cytundeb. Mae’r ddwy wlad yn cytuno i helpu ei gilydd pe bai rhyfel yn erbyn Gwlad Pwyl. Yn allweddol, rhoddodd hyn ryddid i Hitler ymosod ar Wlad Pwyl heb orfod poeni am yr Undeb Sofietaidd.
Roedd y Cytundeb yn dro pedol anhygoel. Roedd Hitler bob amser wedi pwysleisio mai’r Undeb Sofietaidd oedd ei elyn pennaf, dan arweiniad Comiwnyddion Iddewig a Slafiaid is-ddynol. Dyma oedd prif ffocws LebensraumRhwng 1921 ac 1925, datblygodd Adolf Hitler y gred fod angen i’r Almaen gael Lebensraum (gofod byw) er mwyn goroesi. Roedd yr argyhoeddiad y gellid cael y gofod byw hwn yn y dwyrain yn unig, ac yn benodol o Rwsia, yn ganolog i'r syniad hwn..
Roedd yn gamp feistrolgar oherwydd:
- roedd yn gadael Gwlad Pwyl wedi’i hynysu
- chwalodd ymgeision gan y Gorllewin i ddod â’r Undeb Sofietaidd i mewn i gynghrair yn erbyn yr Almaen
- cafodd yr Almaen osgoi cael ei llusgo i mewn i ryfel ar ddwy ffrynt
- enillodd yr Almaen ddefnyddiau crai hanfodol oddi wrth yr Undeb Sofietaidd a’i helpodd i ailarfogi