Diwrnod canlyniadau TGAU 2024: Popeth sydd angen i ti ei wybod

Part ofStudy support

Diweddarwyd yr erthygl hon ddiwethaf yn Awst 2024.

Efallai bod gennyt ti bob math o deimladau wrth i ddiwrnod canlyniadau TGAU 2024 ddod yn nes: yn teimlo’n gyffrous, yn nerfus, neu bod yr holl beth yn ormod. Paid â phoeni, mae hyn yn hollol normal ac, fel arfer, mae Cyngor Bitesize yma i ti!

Rydyn ni wedi creu’r canllaw defnyddiol hwn gyda’r holl wybodaeth bydd ei angen arnat ti o flaen llaw am ddiwrnod canlyniadau TGAU i wneud yn siŵr dy fod mor barod ac y galli di fod. Darllena ymlaen os wyt ti am wybod rhagor.

Sut galla i baratoi ar gyfer diwrnod canlyniadau TGAU?

Yn gyntaf, cymera amser ar ôl dy arholiadau i orffwys – rwyt ti’n ei haeddu! Mae’r gwaith caled wedi ei wneud yn y neuadd arholiadau, felly nawr yw’r amser i ymlacio cyn paratoi ar gyfer diwrnod y canlyniadau a dy gamau nesaf mewn addysg neu mewn swydd.

Mae gan wefan Cyngor Bitesize lawer o ganllawiau a chyngor gan arbenigwyr a myfyrwyr sydd wedi bod drwy ddiwrnod y canlyniadau eu hunain. Mae’n werth cymryd golwg ar rai ohonyn nhw. Gall clywed straeon gan eraill sydd wedi profi pethau tebyg dy helpu di gyda dy deimladau a thawelu dy nerfau cyn diwrnod canlyniadau TGAU (cynnwys Saesneg).

Os mai canllawiau gan arbenigwyr yw dy beth di, cymer olwg ar y tips sydd gan yr ymgyrchydd iechyd meddwl, Natasha Devon am sut i baratoi ar gyfer diwrnod y canlyniadau. Mae Natasha’n dweud y dylet ti droi dy sylw ar ôl yr arholiadau at bethau rwyt ti’n gallu eu rheoli fel edrych ar ôl dy hun a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae hi’n awgrymu trefnu gwneud rhywbeth sy’n hwyl yn y prynhawn ar ôl i ti gael dy ganlyniadau fel mynd i’r parc gyda dy ffrindiau. Galli di weld rhagor o syniadau Natasha am sut i gael dy hun yn barod ar gyfer diwrnod y canlyniadau (cynnwys Saesneg).

Pryd mae diwrnod canlyniadau TGAU a sut mae casglu fy nghanlyniadau?

Eleni, bydd canlyniadau arholiadau TGAU yn cael eu rhyddhau ar ddydd Iau, 22 Awst 2024. Fel arfer byddi di’n casglu dy ganlyniadau o dy ysgol, ond gall rhai ysgolion ddewis postio dy ganlyniadau neu eu danfon yn ddigidol, felly mae’n werth gwirio hyn gyda dy athrawon.

Os wyt ti’n casglu dy ganlyniadau o’r ysgol, bydd dy athrawon yn rhoi gwybod pryd fydd yr ysgol ar agor ac i ba ystafell ddosbarth dylet ti fynd. Mae amseroedd yn amrywio o ysgol i ysgol, felly paid â chymryd yn ganiataol bod dy ysgol di yn agor yr un pryd ac ysgol ffrind.

Beth fydd angen arna i ar y diwrnod?

Dylet ti ystyried mynd â rhai pethau gyda ti pan rwyt ti’n casglu dy ganlyniadau.

  • Ffôn symudol gyda batri llawn er mwyn ffonio dy deulu i roi gwybod iddyn nhw am dy ganlyniadau ac wrth gwrs i dynnu’r hunluniau diwrnod canlyniadau hollbwysig yna!
  • Rhywbeth â ffotograff i brofi pwy wyt ti – rhag ofn bydd ei angen.
  • Potel o ddŵr – mae’n gallu bod yn boeth ym mis Awst!
  • Aelod o’r teulu neu oedolyn galli di ymddiried ynddyn nhw, i dy gefnogi.
  • Pen a phapur i nodi unrhyw wybodaeth.

Beth sy’n digwydd os ydw i ar fy ngwyliau ar ddiwrnod y canlyniadau?

Os nad wyt ti’n gallu casglu dy ganlyniadau am dy fod ar wyliau, neu am unrhyw reswm arall, fel salwch neu oherwydd nad wyt ti’n gallu teithio i’r ysgol, rwyt ti’n gallu trefnu o flaen llaw bod yr ysgol yn eu danfon drwy’r post neu mewn e-bost.

Bydd e-byst fel arfer yn cyrraedd am 8am ar ddiwrnod y canlyniadau, mae’r post yn gallu cymryd ychydig yn hirach – ond gall hyn amrywio o ysgol i ysgol felly gofynna i dy athrawon. Siarada gyda dy ysgol os byddi di i ffwrdd ac eisiau derbyn dy ganlyniadau o bell. Byddan nhw’n egluro’r broses ac yn rhoi gwybod i ti beth sydd angen i ti ei wneud.

Os yw dy gynlluniau di’n newid ar y diwrnod, a dwyt ti ddim wedi trefnu o flaen llaw i dderbyn dy ganlyniadau, paid â phoeni – bydd yr amlen â dy ganlyniadau yn cael ei phostio i dy gartref. Ffonia’r ysgol ar y dydd i esbonio ac fe ddylen nhw fod yn gallu dy helpu di.

Rwyt ti hefyd yn gallu enwebu rhywun i gasglu dy ganlyniadau ar dy ran, ond fel arfer bydd angen iddyn nhw arwyddo llythyr a dod â rhywbeth â ffotograff i brofi pwy ydyn nhw. Y peth gorau i’w wneud yw holi’r ysgol beth ydy’r rheolau ynglŷn â chasglu dy ganlyniadau yn y ffordd hon.

Pryd fydda i’n derbyn fy nhystysgrifau TGAU?

Mae slips canlyniadau TGAU a dy dystysgrifau TGAU yn bethau gwahanol. Mae’r slip canlyniadau rwyt ti’n ei dderbyn ym mis Awst yn dangos y graddau dros dro rwyt ti wedi eu cyflawni. Mae dy dystysgrifau TGAU yn dangos dy raddau terfynol ac mae eu hangen fel prawf i’w ddangos i brifysgolion a chyflogwyr.

Y rheswm pam mai graddau dros dro yw’r rhai ar dy slip canlyniadau yw bod modd apelio yn erbyn dy raddau os wyt ti’n credu bod camgymeriad wedi digwydd. Galli di ofyn i dy bapurau gael eu marcio eto neu ofyn am ailwiriad clerigol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio yng nghanllaw Wyt ti’n anhapus gyda dy ganlyniadau TGAU? Dyma dy opsiynau.

Bydd dy fwrdd arholi yn danfon dy dystysgrifau TGAU i dy ysgol tua tri mis ar ôl diwrnod y canlyniadau. Bydd dy ysgol yn rhoi gwybod i ti pan fyddan nhw’n barod i’w casglu – galli di fynd i’r ysgol neu drefnu bod yr ysgol yn eu postio nhw i ti. Mae’n rhaid i ysgolion gadw dy dystysgrifau am 12 mis ar ôl iddyn nhw eu derbyn, felly paid â phoeni os nad wyt ti’n gallu eu casglu’n syth.

Mae’n bwysig eu cadw nhw’n ddiogel achos efallai bydd angen i ti eu dangos nhw i brifysgiolion neu gyflogwyr. Os wyt ti’n colli tystysgrif, galli di archebu un newydd ond efallai bydd yn rhaid talu amdano.

Beth ydw i’n ei wneud ar ôl i fi gael fy ngraddau?

Mae’r hyn rwyt ti angen ei wneud nesaf yn dibynnu ar dy ganlyniadau ac ar dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae gyda ni lawer o wybodaeth am dy gamau nesaf ar dudalen Diwrnod canlyniadau Bitesize (cynnwys Saesneg). Mae yna lwyth o fideos, canllawiau a thudalennau gwybodaeth i dy helpu di ddeall beth allai dy gamau nesaf di fod.

Os oes angen cymorth arnat ti

Dylet ti bob amser siarad gyda rhywun am y pethau rwyt ti’n poeni amdanyn nhw. Galli di drafod gyda ffrind, rhiant, gwarcheidwad, athro neu oedolyn arall rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw.

Os wyt ti’n cael trafferth gyda dy iechyd meddwl, mae mynd at dy feddyg teulu yn gallu bod yn lle da i ddechrau dod o hyd i help. Gall dy feddyg teulu roi gwybod i ti pa gymorth sydd ar gael i ti, awgrymu gwahanol fathau o driniaeth a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut wyt ti.

Os wyt ti angen cymorth ar y pryd galli di gysylltu â Childline, lle galli di siarad gyda chwnselydd. Mae eu llinellau ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Yng Nghymru, galli di hefyd gysylltu gyda gwasanaeth Meic yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mae modd siarad ar y ffôn, danfon neges destun neu gael sgwrs ar-lein rhwng 8am a hanner nos bob dydd.

Mae rhagor o ddolenni defnyddiol ar Linell Weithredu’r BBC (cynnwys Saesneg).