Wyt ti’n anhapus gyda dy ganlyniadau TGAU? Dyma dy opsiynau

Part ofLearn & revise

Diweddarwyd yr erthygl hon ddiwethaf yn Awst 2024.

Yn gyntaf, da iawn ti am ei gwneud hi drwy dy arholiadau TGAU. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i bawb a rwyt ti’n haeddu clod anferthol am groesi un o gerrig milltir bywyd mewn cyfnod o newid ac ansicrwydd.

Os wyt ti’n hapus gyda dy ganlyniadau, mae hynny’n wych. Os wyt ti’n siomedig gyda dy ganlyniadau, efallai y bydd gennyt ti gwestiynau am y camau nesaf. Er mwyn dy arbed di rhag gorfod chwilio am yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnat, rydyn ni wedi casglu rhai cwestiynau cyffredin ar y dudalen hon.

Pryd fydda i’n cael fy nghanlyniadau?

Diwrnod canlyniadau TGAU yng Nghymru yw dydd Iau, 22 Awst 2024.

Mae rhagor o wybodaeth am pryd mae canlyniadau gwahanol gymwysterau yn cael eu cyhoeddi i’w weld ar wefan corff dyfarnu mwyaf Cymru CBAC

Beth os nad ydw i wedi cael y graddau yr oedd eu hangen arna i?

Os wyt ti’n meddwl bod dy raddau’n gywir, ond dwyt ti ddim wedi cael y rhai sydd eu hangen arnat ti ar gyfer dy gamau nesaf, paid â phoeni. Mae dewisiadau a llwybrau eraill y gallet ti eu dilyn bob amser.

Cysyllta â dy chweched dosbarth neu goleg i drafod dy raddau gyda nhw. Efallai y byddan nhw’n dal i dy dderbyn di gyda graddau is neu’n gallu dy gynghori di ar opsiynau eraill.

Os nad wyt ti’n cael dy dderbyn - unwaith eto, paid â phoeni. Efallai y bydd coleg neu chweched dosbarth arall yn dy dderbyn di ar y cwrs rwyt ti wedi ei ddewis gyda'r graddau sydd gennyt.

Os wyt ti'n dal i fod eisiau'r cyfle i wella dy radd, efallai y galli di gymryd rhai arholiadau TGAU eto yn nhymor yr Hydref 2024. Os nad wyt ti’n siŵr a yw hyn yn berthnasol i ti gofynna i dy ysgol neu goleg am ragor o wybodaeth.

Os na chei di'r graddau sydd eu hangen arnat i symud ymlaen i wneud Lefel A, gallet ti ystyried dilyn cymhwyster arall. Edrycha ar yr adnoddau Bitesize hyn am syniadau:

Beth ddylwn i wneud ar ôl cael fy nghanlyniadau TGAU? (cynnwys Saesneg)

Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun os na chefaist ti'r graddau angenrheidiol. Mae llawer o bobl yn y sefyllfa hon yn mynd ymlaen i lwyddo yn eu gyrfa ddewisiedig.

Darllena'r straeon hyn i gael ysbrydoliaeth.

Ches i ddim y graddau TGAU roeddwn i eu heisiau - ond edrycha arna i nawr (cynnwys Saesneg).

Ydw i’n gallu apelio os ydw i’n meddwl bod fy ngraddau’n anghywir?

Os wyt ti’n meddwl bod rhywbeth wedi mynd o’i le yn y broses o benderfynu ar dy raddau, y cam cyntaf yw siarad â dy ysgol neu goleg. Mae’r broses apelio’n wahanol yn dibynnu ar ble rwyt ti yn y DU.

Os wyt ti am wybod sut i fynd ati i apelio yn erbyn dy ganlyniadau arholiad, mae yna wybodaeth am sut i wneud gan CBAC.

Mae gwybodaeth am y broses apelio yn y fideo hwn gan Cymwysterau Cymru hefyd.

A fyddai’n methu dyddiad cau y chweched dosbarth/coleg wrth apelio?

Dy ysgol neu goleg sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor i ti ar hyn, felly gwna'n siŵr eu bod yn gwybod am dy bryderon, dy gynlluniau a dy derfynau amser. Paid â bod ofn cyfathrebu gyda nhw – rwyt ti’n fwy tebygol o ddod o hyd i ateb drwy roi gwybod iddyn nhw beth yw dy sefyllfa di.

Gyda phwy alla i siarad i gael cyngor ar y camau nesaf?

I gael cyngor a chyfarwyddyd gyrfa yng Nghymru, galli di gysylltu â Gyrfa Cymru ar 0800 028 4844. Mae’r llinellau ar agor:

  • 8am tan 6pm o ddydd Llun i ddydd Iau
  • 9am tan 4:30pm ar ddydd Gwener

Mae’n syniad da meddwl am yr hyn rwyt ti eisiau ei drafod cyn gwneud yr alwad, a gofalu bod gennyt ti ben a phapur i nodi unrhyw gyngor rwyt ti’n ei dderbyn. Mae gwasanaeth sgwrs ar-lein gan Gyrfa Cymru hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am y camau nesaf, gallet ti bori drwy gasgliad Gyrfaoedd Bitesize (cynnwys Saesneg).

Oes gennyt ti ragor o gwestiynau?

Mae corff dyfarnu mwyaf Cymru, CBAC, wedi cyhoeddi gwybodaeth fanwl am ddiwrnod y canlyniadau.

Mae gan Cymwysterau Cymru adran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer Canlyniadau Haf 2024.

Pa gefnogaeth arall sydd ar gael?

Yn olaf, gall diwrnod y canlyniadau fod yn straen ac mae’n bwysig iawn dy fod yn gofalu am dy les yn ystod y cyfnod hwn. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i ti edrych ar rai o’r erthyglau a'r fideos eraill rydyn ni wedi eu creu ar gyfer diwrnod y canlyniadau:

Diwrnod canlyniadau TGAU 2024: edrych ar ôl dy hun (cynnwys Saesneg)

Ches i ddim y graddau TGAU roeddwn i eu heisiau, ond edrycha arna i nawr (cynnwys Saesneg)

Awgrymiadau ar gyfer ymdopi pan fydd pethau’n teimlo’n ormod (cynnwys Saesneg)

Mae rhagor o gyngor anhygoel a thips ar gyfer beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl diwrnod y canlyniadau ar gael ar dudalen Diwrnod canlyniadau 2024 Bitesize (cynnwys Saesneg).

Os oes angen cymorth arnat ti

Dylet ti bob amser ddweud wrth rywun am y pethau rwyt ti’n poeni amdanyn nhw. Gallet ti siarad gyda ffrind, rhiant, gwarcheidwad, athro neu oedolyn arall rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw.

Os wyt ti’n cael trafferth gyda dy iechyd meddwl, mae mynd at dy feddyg teulu yn gallu bod yn lle da i ddechrau dod o hyd i help. Gall dy feddyg teulu roi gwybod i ti pa gymorth sydd ar gael i ti, awgrymu gwahanol fathau o driniaeth a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut wyt ti.

Os wyt ti angen cymorth ar y pryd galli di gysylltu â Childline, lle galli di siarad gyda chwnselydd. Mae eu llinellau ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Yng Nghymru, galli di hefyd gysylltu gyda gwasanaeth Meic yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mae modd siarad ar y ffôn, danfon neges destun neu gael sgwrs ar-lein rhwng 8am a hanner nos bob dydd.

Mae rhagor o ddolenni defnyddiol ar Linell Weithredu’r BBC (cynnwys Saesneg).