Sut i ddelio â diwrnod y canlyniadau: 6 awgrym i rieni

Part ofStudy support

Image source, GETTY IMAGES

I lawer o bobl ifanc, diwrnod i ddathlu yw’r diwrnod y cânt ganlyniadau eu harholiadau a diwrnod i nodi’r pontio cadarnhaol rhwng un cyfnod o’u haddysg i gyfnod arall. I eraill, fodd bynnag, mae pryder, a’r posibilrwydd o gael eu siomi, yn taflu cysgod dros y diwrnod.

Wrth gwrs, bydd diwrnod y canlyniadau eleni yn creu heriau newydd. Gan nad oedd pobl ifanc wedi sefyll eu harholiadau cyhoeddus oherwydd y cyfnod clo, ac na wnaethant ychwaith ffarwelio’n ffurfiol â’u hysgolion, mae’n bosib y bydd mwy o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau a gânt, a sut y byddant yn eu derbyn. Mae’n ddigon posib y bydd mwy o fyfyrwyr yn ei chael yn anodd delio gyda phethau ar y diwrnod.

Fel rhiant neu ofalwr, mae’n bosib y byddi di’n teimlo’n anesmwyth wrth feddwl am hyn, ac yn ystyried y ffordd orau i gefnogi dy blentyn ar yr adeg hon. Dyma ambell i awgrym:

Image source, GETTY IMAGES

1. Rhoi dy blentyn yn gyntaf

Image source, GETTY IMAGES

Mae’r diwrnod hwn yn benllanw blynyddoedd lawer o waith caled. Dylid ei nodi a’i ddathlu bob amser, beth bynnag yw canlyniadau dy blentyn. Er bod gen ti, o bosib, d’obeithion dy hun (a dy syniad dy hun o lwyddiant), mae hi’n wirioneddol bwysig ceisio gweld canlyniadau dy blentyn o’i safbwynt o. Os yw’n hapus, dylet rannu’n teimlad hwnnw efo fo. Yn yr un modd, os yw’n teimlo siom a cholled, gwna’n siŵr dy fod yn dangos empathi â’i deimladau.

Dylet ymatal rhag y temtasiwn o rannu straeon am ganlyniadau aelodau eraill o’r teulu neu’r hyn y mae myfyrwyr eraill wedi’i gyflawni ar ddiwrnod y canlyniadau. Yn hytrach, canolbwyntia ar dy blentyn di. Mae hwn yn brofiad unigryw iddo, felly dylid osgoi cymariaethau. Rho dy blentyn yn gyntaf.

2. Siarad am bethau ymlaen llaw

Bydd rhoi cyfle i dy blentyn siarad am obeithion a phryderon ynghylch y dyfodol yn ei helpu i ddechrau gwneud penderfyniadau’n annibynnol. Efallai y bydd rhai plant angen help i ddechrau’r sgwrs hon oherwydd bod y mater yn eu digalonni. Felly, gallet ofyn pryd y byddai’n hoffi siarad am y peth – ac awgrymu y gallai, o bosib, yn ei amser ei hun, roi rhywfaint o ystyriaeth i’r peth ymlaen llaw.

Gall y sgwrs hon ganiatáu i chi weithio gyda’ch gilydd i ddechrau cynllunio, fel y gall dy blentyn wynebu diwrnod y canlyniadau gydag opsiynau gwahanol ar gael iddo. Golyga hynna nad aiff y profiad yn ormod i dy blentyn ac y bydd yn medru adennill rheolaeth ar ei deimladau os yw’r canlyniadau’n rhai annisgwyl.

Ond gyda’ch gilydd, byddwch yn ofalus nad ydych yn myfyrio nac yn ceisio rhagweld yn ormodol beth fydd yn digwydd oherwydd y gallai hynny, ynddo’i hun, achosi straen.

3. Paratoi ar gyfer y diwrnod

Image source, GETTY IMAGES

Os wyt ti’n teimlo bod dy blentyn yn mynd yn fwyfwy pryderus wrth i ddiwrnod y canlyniadau nesáu, helpa fo i baratoi ar ei gyfer. Bydd sicrhau ei fod yn bwyta ac yn cysgu’n dda yn y dyddiau sy’n arwain at y diwrnod ei hun – a pharhau gyda’r gweithgareddau y mae’n eu mwynhau – yn helpu i gynnal meddylfryd cadarnhaol.

Gweithia ar gynllun ar gyfer y diwrnod, gan ddechrau efo hoff frecwast efallai, ac annog cysylltiad gyda ffrindiau da i rannu’r gefnogaeth. Gwna’n siŵr dy fod wrth law (boed hynny’n gorfforol neu dros y ffôn) pan mae’n derbyn y canlyniadau.

Os ydych chi wedi gweithio trwy amrywiaeth o opsiynau, helpa dy blentyn i fod yn barod i weithredu ar y rhain e.e. drwy wybod a oes athro cefnogol ar gael, manylion cyswllt darpar golegau, neu drwy wneud yn siŵr fod rhestr wrth law o’r holl brentisiaethau sydd ar gael a’r meini prawf mynediad.

Bydd y camau bach hyn yn meithrin ymdeimlad o fod dan reolaeth mewn sefyllfa ddieithr, a gallent helpu i arwain at ymateb mwy gwydn.

4. Pwyso a mesur yr opsiynau gyda’ch gilydd

Image source, GETTY IMAGES

Pan fydd dy blentyn yn cael ei ganlyniadau, mae’n bosib y bydd penderfyniadau annisgwyl yn ei wynebu. Dylet atgoffa dy blentyn i feddwl dros yr opsiynau yn ofalus ac i beidio â rhuthro i mewn i ddim. Rho amser a lle iddo brosesu’i emosiynau ar y pryd, cyn ceisio symud ymlaen.

Dylet osgoi ymadroddion fel ‘paid â phoeni’ a ‘paid â bod yn siomedig’, gan nad ydynt yn debygol o deimlo’n fuddiol. Yn hytrach, gwna’n siŵr ei fod yn teimlo bod ei emosiynau’n rhai dilys trwy dderbyn ac ategu ei ymateb, yn enwedig oherwydd bod modd iddo ymateb mewn ffordd wahanol i’w gyfoedion.

Siaradwch gyda’ch gilydd, ond efallai y dylet ei annog hefyd i edrych ar amrywiaeth o opsiynau i’w helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf – gallai hynny ddod gan ffrindiau ac athrawon sy’n ei adnabod yn dda. Dylet ei atgoffa o’r rhwydwaith o gefnogaeth sydd ar gael, ac nad yw gofyn am help mewn sefyllfaoedd anodd yn arwydd o wendid.

5. Cadw pethau mewn persbectif

Gall pobl ifanc deimlo dan bwysau i ystyried y diwrnod hwn fel llwyddiant neu fethiant. Dylet atgoffa dy blentyn nad yw hyn yn wir ac, er y gallai’r canlyniadau fod yn uniongyrchol berthnasol i’r hyn a wnaiff nesaf, nid ydynt yn penderfynu’r hyn y gallai ei gyflawni yn y dyfodol. Mae ei fywyd fel oedolyn i gyd o’i flaen, ac un cam yw hwn mewn taith hwy.

Dylet ei annog i edrych mewn ffordd gadarnhaol ar y darlun ehangach, fel y gall barhau i gadw ffocws. Mae mwy fyth o werth yn hynny os yw’r canlyniadau ychydig yn siomedig.

6. Canfod cyfleoedd i ffarwelio

Image source, GETTY IMAGES

P’un ai yw dy blentyn yn cyflawni’r canlyniadau y gobeithiodd amdanynt neu beidio, mae’n bwysig canfod ffordd o nodi’r diweddglo hwn – yn enwedig gan fod y flwyddyn academaidd wedi’i byrhau. Mae’n bosib na fydd modd ffarwelio wyneb-yn-wyneb ag athrawon na ffrindiau ond bydd anfon cardiau a negeseuon yn helpu dy blentyn i gau’r bennod hon. Peidiwch â cholli cyfle i hel atgofion gyda’ch gilydd am yr holl lwyddiannau a fu yn yr ysgol, a’r heriau a orchfygwyd.

Gallai hyn helpu dy blentyn i symud ymlaen mewn ffordd bositif gydag amrywiaeth o atgofion o’r ysgol, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr un diwrnod hwn yn unig. Cyfoeth yr holl brofiadau hyn fydd yn aros gyda dy blentyn ac yn helpu i siapio’r oedolyn fydd yn datblygu.

Gan Cait Cooper, Dirprwy Gyfarwyddwr y rhaglen Iechyd Meddwl a Lles mewn Ysgolion yng Nghanolfan Anna Freud

Meddwl ar Waith

Cynnwys i gefnogi'r rhai sy'n adolygu ac yn sefyll arholiadau eleni.

Meddwl ar Waith