Os ‘dach chi ddim yn gwybod beth ‘dach chi eisiau gwneud ar ôl i chi falle gwneud eich arholiadau TGAU neu ar ôl i chi ‘neud eich opsiynau Lefel A neu arholiadau Level A neu arholiadau BTEC, peidiwch a panicio.Mae ‘na modd i chi gymryd falle cam yn ôl a meddwl, beth dwi wir yn mwynhau?Mae ‘na nifer fawr o swyddi mas yna sydd ddim yn gofyn am gymwysterau penodol, sydd ddim yn gofyn am bynciau penodol.Felly mae ‘na nifer fawr o opsiynau allan yna i help chi.Falle wnewch chi ddod ar draws rhywbeth doeddech chi ddim wedi ystyried o’r blaen.Falle bydd swydd yn codi oeddech chi ddim wedi meddwl amdani.Felly mae’n bwysig i gadw’ch opsiynau chi ar agor os ‘dach chi ddim yn siŵr yn union beth ‘dach chi eisiau ‘neud fel gyrfa.Os ‘dach chi’n meddwl am gymryd blwyddyn allan cyn mynd i’r brifysgol, defnyddiwch yr amser yn ddoeth.So falle meddyliwch am gael bach o brofiad gwaith mewn maes ‘dach chi eisiau ffeindio bach mwy amdani.Neu falle os ‘dach chi eisiau gweithio mewn siop, er enghraifft, mae ‘na nifer fawr o sgiliau ‘dach chi’n mynd i ddatblygu fel rhan o’r profiad hynny hefyd a fyddech chi’n gallu defnyddio ar CV, er enghraifft, pan ‘dach chi wedyn yn dod i ymgeisio i brifysgol.Mae prifysgolion yn hoffi gweld bod chi wedi gwneud rhywbeth defnyddiol gyda’r flwyddyn allan hynny.Ydych chi wedi falle bod dramor yn gweithio?Wedi cyfrannu at ryw brosiect?A pa sgiliau ‘dach chi wedi datblygu?Ond mae cymryd blwyddyn allan yn opsiwn os ‘dach chi ddim yn siŵr yn sicr beth ‘dach chi wir eisiau gwneud yn syth ar ôl yr ysgol neu ar ôl coleg.
- Paid â mynd i banig os nad wyt ti’n gwybod beth i’w wneud nesaf.
- Does dim rhaid brysio i wneud penderfyniad.
- Cymera gam yn ôl ac ystyried beth rwyt ti’n mwynhau ei wneud. Gall arwain at swydd neu gwrs doeddet ti heb ei ystyried o’r blaen.
- Meddwl cymryd blwyddyn allan? Gwna rhywbeth fydd yn cynnig profiadau, yn ymestyn dy sgiliau ac yn edrych yn dda ar dy CV.

Meddwl ar Waith
Cynnwys i gefnogi'r rhai sy'n adolygu ac yn sefyll arholiadau eleni.


