I fi, y pethau mwyaf pwysig os fi’n mynd i astudio yn y brifysgol oedd ‘neud yn sicr bod fi’n gwybod yn union be o’n i eisiau.Y pethau mwyaf pwysig wrth symud ymlaen ac edrych am y peth cywir i fi oedd siarad gyda phobl wahanol, siarad hefo rhieni fi, siarad hefo pawb sydd yn barod wedi bod i’r brifysgol, sydd yn barod yn edrych am brifysgol, am bethau maen nhw wedi ‘neud, pethau maen nhw wedi ffeindio.
Felly, yn ysgol oedd i gyd o ffrindiau fi eisiau mynd i’r brifysgol, ag oedd hwnna’n brilliant iddyn nhw.Ond o’n i’n gwybod yn syth bin dyna be o’n i eisiau ‘neud.O’n i eisiau mynd mewn cyfeiriad hollol wahanol.Felly be nes i wneud wedyn oedd rhoi bach o ymchwil i mewn i be o’n i eisiau ‘neud a dewis be o’n i eisiau ‘neud, ac yn mynd yn y cyfeiriad yna.Ag o fanna, dwi ‘di gallu adeiladu ar be o’n i eisiau ‘neud.A dwi hefo cyfeiriad gwych i’r dyfodol.
Siarad hefo athrawon gwahanol.Siarad hefo pobl sydd yn barod yn y brifysgol.Mynd i weld y prifysgolion.
Prentisiaeth ydy lle ‘dach chi yn gweithio, ag yn hyn a hyn ‘dach chi’n cael cymwysterau.‘Dach chi’n gallu gweithio naw tan bump, ac wedyn o fanna ‘dach chi’n ‘neud bach o waith ecstra.
Mae o’n brilliant oherwydd ‘dach chi’n cael y profiad a ‘dach chi’n cael cymwysterau wrth i chi fynd.
Pryd ‘ych chi’n ‘neud eich ymgais UCAS, y peth pwysicaf i fi oedd sgwennu lawr dwi’n ddwyieithog.Dwi’n siarad Cymraeg.Dwi’n Cymraeg iaith gyntaf.Mae prifysgolion yn dwli cael dysgwyr sy’n siarad dwy iaith.Mae’n helpu nhw.Mae’n ‘neud yn sicr bod nhw’n trio helpu cael pawb mewn i’r brifysgol o unrhyw fath o gefndir.
Felly be ‘dach chi angen ‘neud ydy edrych ar be ‘dach chi’n hoffi, be ‘dach chi eisiau ‘neud yn y dyfodol, a gweld os mae o’n berffaith i chdi.
- Pan ti’n ymchwilio i gyrsiau, siarada gyda phobl i gael eu barn a’u cyngor:
- Gall sylwadau dy athrawon, dy rieni, myfyrwyr sy’n gwneud y cwrs a phobl sy’n gweithio yn y maes rwyt ti am fynd iddi fod yn ddefnyddiol.
- Does dim angen gradd ar gyfer pob swydd. Mae’n well gan rai cyflogwyr hyfforddi staff.
- Os yw’r syniad o dderbyn cymwysterau wrth weithio yn apelio, ystyria wneud prentisiaeth.
- Os wyt ti’n ymgeisio am brifysgol, cofia ddweud dy fod yn ddwyieithog. Mae hynny’n apelio’n fawr at brifysgolion.

Mwy fel hyn
Meddwl ar Waith
Cynnwys i gefnogi'r rhai sy'n adolygu ac yn sefyll arholiadau eleni.


