So yn ysgol, nes i fethu un o gymwysterau Lefel A fi, ag oedd hwnna wedi dod a fi lawr bach.Er hyn, be dwi ‘di ‘neud yw cymryd Lefel A arall, cymryd o fyny i wneud dau flwyddyn mewn un a gweithio’n really galed tuag ato fo, fel ar ddiwedd y ddwy flynedd, dwi ar yr un lefel a phawb arall.Oedd o’n rhoi fi lawr.Oedd o’n upsetting.Ond er hyn, dwi ‘di gweithio’n really galed i weithio fo fyny a mynd o fanna.Mae ‘di bod yn really da.
Pryd bynnag oedd unrhyw un yn gofyn i fi be o’n i eisiau ‘neud pan o’n i’n tyfu fyny, fysan nhw wedyn yn dilyn hwnna hefo’r cwestiwn, ti’n mynd i fod yn gerddor fel dy dad?A ‘naeth hwnna really ‘neud yn sicr bod fi ddim eisiau bod yn gerddor fel fy nhad.Felly, pan o’n i’n symud ymlaen i edrych ar gyrfaoedd gwahanol neu gyrsiau gwahanol, oeddwn i’n sicr bod ni eisiau rhywbeth o’n i really eisiau trwy edrych ar gyrsiau gwahanol, neu unrhyw beth fel hynny.Nes i ffeindio y cwrs i fi, sef llenyddiaeth neu wleidyddiaeth.
Yn ysgol, o’n i’n gwybod bod fi ddim eisiau mynd i mewn i swydd tu ôl i ddesg.Oedd o ddim yn siwtio fi o gwbl.Felly, be nes i benderfynu ‘neud oedd mynd i’r awyr agored.Oedd o’n rhywbeth oedd yn siwtio fi.O’n i’n gallu bod yn uchel.O’n i’n gallu symud o gwmpas.O’n i’n gallu bod yn yr awyr agored.Ag oedd o’n grêt i be o’n i eisiau gwneud.
Os ‘ych chi’n sicr chi eisiau mynd i’r brifysgol, mae’n rhaid i chi edrych tu fas i’r brifysgol.Mae’n rhaid i chi edrych am yrfaoedd gwahanol, am brentisiaethau gwahanol.Ac wedyn, os ‘ych chi’n gwybod, na, dyw hwnna ddim i fi, chi’n gwybod chi really eisiau mynd i’r brifysgol.
- Cofia mai dy ddyfodol di yw hi, felly paid â theimlo dan bwysau i ddewis cwrs i blesio pobl eraill.
- Os nad yw’r canlyniadau lefel ‘A’ cefaist yn ddigonol, paid â bod ofn ail sefyll neu ddechrau cwrs newydd sbon - bydd yn werth yr ymdrech yn y pendraw.
- Pan ti’n edrych ar gyrsiau prifysgol, cofia ymchwilio pa fath o swyddi y gallant arwain atynt. Does dim pwynt gwneud cwrs sy‘ ddim yn arwain at swydd yn y pendraw.
- Nid gwneud cwrs gradd yw’r llwybr cywir ar gyfer pob swydd. Mae’n werth ystyried prentisiaeth.

Mwy fel hyn
Meddwl ar Waith
Cynnwys i gefnogi'r rhai sy'n adolygu ac yn sefyll arholiadau eleni.


