Mae Rwsia wedi ymosod ar Wcráin, ac mae’r byd yn dilyn y stori’n agos iawn.
Wrth i chi gadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd, efallai byddwch chi’n dod ar draws llawer o eiriau ac ymadroddion newydd.
Felly, rydyn ni wedi dewis rhai o’r termau pwysig mae angen i chi eu gwybod am y rhyfel yn Wcráin, ac wedi esbonio beth maen nhw’n ei olygu.
Image source, GETTY IMAGESCyfeddiannu
Mae cyfeddiannu’n golygu bod gwlad yn penderfynu ei bod nawr yn rheoli ardal arall. Mae’n gwneud hyn heb gytundeb y bobl dan sylw nac unrhyw un arall y byddai angen iddyn nhw roi caniatâd.
Ni cheir gwneud hyn dan gyfraith ryngwladol.
Dyma beth roedd Rwsia wedi’i wneud i Crimea yn 2014 - mae rhai yn gweld hyn fel dechrau’r rhyfel sy’n digwydd yn Wcráin nawr.
Dadleoli
Image source, PIERRE CROMOs bydd rhywun yn cael ei ddadleoli, mae’n golygu ei fod wedi cael ei orfodi i adael ei gartref oherwydd nad yw’n ddiogel byw yno bellach.
Os bydd rhywun yn dadleoli rhywun arall, mae’n golygu mai nhw yw’r rheswm bod yr unigolyn arall yn cael ei orfodi o’i gartref.
Image source, GETTY IMAGESMae’r UE yn golygu’r Undeb Ewropeaidd o wledydd sydd â phartneriaeth wleidyddol, economaidd a masnach agos.
Mae gan y grŵp 27 aelod gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, Sbaen ac Iwerddon yng ngorllewin Ewrop a Gwlad Pwyl, Lithwania, Latfia a Bwlgaria yn Nwyrain Ewrop.
Un o’r prif resymau mae arbenigwyr yn credu bod Rwsia wedi ymosod ar Wcráin yw bod Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn poeni bydd Wcráin yn ceisio ymuno â’r UE.
Ymosodiad
Mae ymosodiad yn golygu bod byddin yn mynd i mewn i wlad arall drwy ddefnyddio grym.
Mae’n cael ei wneud fel arfer i reoli’r ardal neu’r wlad mae’r fyddin yn mynd i mewn iddi.
Kyiv
Image source, GETTY IMAGESKyiv yw prifddinas Wcráin. Mae’r brifddinas ychydig i’r gogledd o ganol y wlad, o boptu afon fwyaf Wcráin - Afon Dnieper.
Dyma lle mae llywodraeth Wcráin ac mae arbenigwyr milwrol yn credu mai un o brif nodau Rwsia fydd rheoli neu feddiannu’r ddinas.
Yn ôl llywodraeth Wcráin, mae dros ddwy filiwn o bobl yn byw yno, sy’n golygu mai dyma’r seithfed ddinas fwyaf yn Ewrop yn ôl poblogaeth. Mae’n un o ddinasoedd enwocaf Dwyrain Ewrop ac mae arbenigwyr yn credu ei bod wedi bodoli ers y 5ed Ganrif.
Mae hefyd yn gartref i’r tîm pêl-droed enwog Dynamo Kyiv sydd wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr/Cwpan Ewrop dair gwaith.
Y Kremlin
Image source, GETTY IMAGESMae’r Kremlin yn gaer fawr ym Moscow sy’n cynnwys adeiladau’r llywodraeth a chartref swyddogol arweinwyr Rwsia.
Meddyliwch amdano fel rhif 10 Stryd Downing yn y Deyrnas Unedig, neu’r Tŷ Gwyn yn Unol Daleithiau America. Cafodd ei adeiladu gannoedd o flynyddoedd yn ôl, ar ddiwedd y 15fed ganrif.
Mae’r Kremlin hefyd yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i sôn am rannau o lywodraeth Rwsia – unwaith eto, mae hyn fel petai rhywun yn y Deyrnas Unedig yn sôn am Rif 10 fel ffordd o siarad am dîm y Prif Weinidog.
Nato
Image source, GETTY IMAGESMae Nato yn golygu Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd (North Atlantic Treaty Organisation).
Mae’n sefydliad rhyngwladol sy’n dod â byddinoedd gwahanol wledydd at ei gilydd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America a Ffrainc.
Nod Nato yw sicrhau bod y gwledydd sy’n aelodau ohono i gyd yn amddiffyn ei gilydd yn erbyn unrhyw un a allai ymosod arnyn nhw, fel Rwsia. Dydy Wcráin ddim yn aelod o Nato, dyna pam dydy Nato ddim yn cymryd rhan.
Cafodd ei greu gan 12 gwlad yn 1949, bedair blynedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Mae 30 o wledydd yn aelodau o Nato erbyn 2022.
‘Arf ataliol niwclear’
Image source, GETTY IMAGESMae taflegrau niwclear yn arfau rhyfel pwerus a dinistriol iawn. Yr unig adeg mae’r rhain wedi cael eu defnyddio mewn gwrthdaro oedd gan UDA yn erbyn Japan yn 1945, ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Mae ‘arf ataliol niwclear’ yn gysyniad milwrol a gwleidyddol - sef mai arfau niwclear yw’r ffordd orau o amddiffyn gwlad rhag i rywun ddefnyddio arfau niwclear yn ei herbyn.
Y theori yw, os oes gennych chi’r arfau hyn, y byddai unrhyw un sy’n ymosod arnoch chi yn wynebu cymaint, neu fwy, o ddifrod o’ch ymosodiadau chi nag y byddent yn ei gael drwy ymosod arnoch chi yn y lle cyntaf.
Felly, mewn theori, byddai’r ‘arf ataliol niwclear’ hwn yn ddigon iddynt beidio ag ymosod yn y lle cyntaf.
Dydy pawb ddim yn cytuno a’r theori hwn ac mae eraill yn dadlau po fwyaf o wledydd sydd ag arfau niwclear, y mwyaf tebygol yw hi y byddan nhw’n cael eu defnyddio mewn gwrthdaro.
Ar hyn o bryd dim ond pum gwlad sy’n cyfaddef bod ganddyn nhw arfau niwclear: UDA, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Tsieina a Rwsia, er bod arbenigwyr yn dweud bod gan wledydd eraill rhai hefyd.
Ers y 1980au, yn gyffredinol mae’r pwerau mawr wedi gweithio gyda’i gilydd i leihau nifer yr arfau sydd ganddyn nhw, yn hytrach na’u cynyddu.
Oligarchiaid
Mae Oligarchiaid yn grŵp o bobl fusnes lwyddiannus iawn yn Rwsia a ddaeth yn gyfoethog iawn yn fuan iawn ar ôl i’r Undeb Sofietaidd chwalu.
Maen nhw’n berchen ar lawer o bethau pwysig yn Rwsia, fel cwmnïau cyfryngau, safleoedd olew a banciau. Maen nhw hefyd wedi prynu llawer o fusnesau ac eiddo mewn llefydd fel Llundain.
Oherwydd eu bod yn ymwneud â sefydliadau mor fawr yn Rwsia, mae rhai pobl yn meddwl bod ganddyn nhw lawer o ddylanwad gwleidyddol yn y wlad.
Putin
Image source, EPAVladimir Putin yw Arlywydd Rwsia. Dyma pwy sydd wedi gorchymyn i filwyr Rwsia fynd i mewn i Wcráin.
Mae’n dweud ei fod yn gwneud hyn am resymau sy’n cynnwys agwedd ymosodol Nato (gweler uchod). Mae hefyd wedi dweud bod Wcráin yn rhan o Rwsia ac nad yw’n wlad ‘go iawn’, a’i fod yn ceisio amddiffyn Rwsiaid sy’n byw yno rhag gorthrwm.
Mae llywodraeth etholedig Wcráin a’r rhan fwyaf o bwerau’r gorllewin yn gwrthod yr honiadau hyn.
Ffoadur
Image source, SOPA IMAGESMae ffoadur yn golygu rhywun sy’n gadael ei wlad oherwydd nad yw’n ddiogel iddo aros yno. Bydd wedyn yn mynd ac yn chwilio am rywle i fyw mewn gwlad wahanol.
Mae rhyfel yn aml yn rheswm dros hyn – mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud y gallai hyd at bedair miliwn o ffoaduriaid ffoi o Wcráin o ganlyniad i’r rhyfel sy’n digwydd yno.
Os ydych chi’n poeni am yr hyn sy’n digwydd yn y newyddion ar hyn o bryd, darllenwch ein canllawPum ffordd o reoli dy deimladau am y gwrthdaro yn Wcráin.
Sancsiynau
Mae sancsiwn yn gosb sy’n cael ei rhoi gan un wlad i un arall pan welir ei bod yn gwneud rhywbeth o’i le.
Mae hi’n bosibl rhoi sancsiynau yn erbyn cwmnïau, sefydliadau neu hyd yn oed unigolion.
Image source, ALEXEI NIKOLSKY/GETTYMae sancsiynau’n cael eu rhoi er mwyn ceisio newid ymddygiad llywodraeth gwlad.
Yn hytrach na mynd i ryfel, dyma un o’r mesurau llymaf gall gwlad ei gymryd.
Mae sancsiynau’n ariannol yn aml, felly’n ymwneud ag arian - er enghraifft, efallai bydd gwlad yn dweud y bydd yn rhoi’r gorau i fasnachu gyda gwlad arall, sy’n effeithio ar faint o arian gall y wlad honno ei wneud.
Ymwahanwyr
Mae ymwahanwr yn aelod o grŵp penodol (gallai fod yn grŵp crefyddol neu bobl sydd â chredoau gwleidyddol penodol) sy’n credu y dylai’r grŵp hwn fod yn annibynnol ar y wlad y maen nhw’n rhan ohoni.
Mae hyn yn golygu y byddai ganddyn nhw lywodraeth ar wahân neu y bydden nhw mewn rhyw ffordd yn byw ar wahân i bobl eraill.
Slava Ukraine
Image source, ANADOLU AGENCY/GETTYDyma ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn fideos o bobl yn Wcráin ar hyn o bryd, gan gynnwys Arlywydd y wlad, Volodymyr Zelensky.
Mae’n golygu ‘Gogoniant i Wcráin’, a dechreuodd yn y fyddin – daeth yn boblogaidd i ddechrau yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Wcráin rhwng 1917 a 1921.
Sofraniaeth

Dyma’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r awdurdod sydd gan wlad i reoli ei hun. Mae’n golygu nad oes gan neb arall hawl i ymyrryd yn eu materion, na phenderfyniadau eu llywodraeth.
Yn yr un modd, mae cenedl sofran yn wlad sydd â llywodraeth sydd â’r pŵer i benderfynu beth sy’n digwydd o fewn ei ffiniau.
Mae pobl yn flin ynghylch ymosodiad Rwsia ar Wcráin oherwydd eu bod yn credu ei fod yn mynd yn groes i hawl Wcráin i lywodraethu heb ymyrraeth.
Y Cenhedloedd Unedig
Image source, GETTY IMAGESMae’r Cenhedloedd Unedig yn sefydliad sy’n cynnwys cynrychiolwyr o 193 o wledydd (sef pob gwlad yn y byd bron).
Mae ganddyn nhw ychydig o nodau, gan gynnwys dod â llywodraethau at ei gilydd i gwrdd a ffurfio cyfeillgarwch, a hyrwyddo heddwch a diogelwch ar draws y byd.
Os bydd gan unrhyw un o’r gwledydd sy’n aelodau ohono broblem, mae’n gallu ei chyflwyno gerbron y Cenhedloedd Unedig, lle bydd yn cael ei thrafod a byddan nhw’n ceisio dod o hyd i atebion.
Yr Undeb Sofietaidd
Image source, GETTY IMAGESRoedd Rwsia a Wcráin yn arfer bod yn rhan o wlad fawr iawn o’r enw’r Undeb Sofietaidd, a chyn hynny Ymerodraeth Rwsia.
Cafodd yr Undeb Sofietaidd neu Undeb Gweriniaethau Sosialaidd y Sofiet (USSR) ei chreu yn 1922. Roedd wedi goresgyn a chyfeddiannu llawer o wledydd eraill.
Roedd yr Undeb Sofietaidd yn wlad gomiwnyddol, gyda'i phencadlys ym mhrifddinas Rwsia, Moscow. Nid oedd yn cytuno â gwledydd cyfalafol y gorllewin (fel y Deyrnas Unedig ac UDA) a’u ffordd nhw o wneud pethau, fel caniatáu i bobl siarad yn rhydd neu ethol eu harweinwyr eu hunain.
Am flynyddoedd lawer bu gwledydd y gorllewin a’r Undeb Sofietaidd yn rhan o’r Rhyfel Oer, a ddaeth i ben pan chwalwyd yr Undeb Sofietaidd.
Roedd yr Undeb Sofietaidd yn dal i fodoli tan 1991, pan rannodd yn 15 gwlad lai, wrth i’r gwledydd roedd wedi’u cyfeddiannu ddod yn annibynnol eto.
| Dyma’r gwledydd heddiw a oedd yn arfer bod yn rhan o’r Undeb Sofietaidd |
|---|
| Armenia, Azerbaijan, Belarws, Estonia, Georgia, Kazakhstan, Kyrgyzstan, Latfia, Lithwania, Moldofa, Rwsia, Tajikistan, Turkmenistan, Wcráin, Uzbekistan. |
Zelensky
Image source, GETTY IMAGESVolodymyr Zelensky yw Arlywydd Wcráin.
Dim ond ers mis Ebrill 2019 mae’r Arlywydd Zelensky wedi bod mewn pŵer, a chyn hynny roedd ei fywyd yn dra gwahanol - roedd yn ddigrifwr ac yn actor.
Serch hynny, llwyddodd i ennill yr etholiad gyda 73% o’r bleidlais, gan addo brwydro yn erbyn llygredigaeth a dod â heddwch i rannau o ddwyrain Wcráin a oedd wedi cael eu dal yn yr ymladd yno.
Ers ymosodiad Rwsia mae wedi aros ym mhrifddinas Wcráin, Kyiv, ac wedi bod yn gyfrifol am amddiffynfeydd ei wlad.
Mae wedi bod yn llafar iawn hefyd yn galw ar weddill y byd i gefnogi Wcráin a chosbi Rwsia am yr hyn mae’n ei wneud.

Pum ffordd o reoli dy deimladau am y gwrthdaro yn Wcráin
Bitesize - Cyngor

Sut mae siarad â phobl ifanc am yr ymosodiad ar Wcráin
Bitesize - Cyngor

