Pum ffordd o reoli dy deimladau am y gwrthdaro yn Wcráin

Part ofStudy support

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 10 Mawrth 2022

Wrth i ni i gyd glywed mwy am sut mae ymosodiadau Rwsia yn effeithio ar fywydau pobl Wcráin efallai dy fod wedi dychryn ac yn poeni.

Efallai dy fod yn cael gwybodaeth o bob cyfeiriad – gan deulu, ffrindiau, yr ysgol a chyfryngau cymdeithasol – ac mae’r cwbl yn gallu llorio rhywun. Dyma gyngor gan arbenigwyr iechyd meddwl teulu yng Nghanolfan Anna Freud ar sut i reoli dy deimladau ar hyn o bryd.

Bydd dilyn y newyddion a cheisio cymryd popeth i mewn heb iddo fynd yn drech na ti yn gweithio i rai pobl. Bydd cadw’n brysur a pheidio â meddwl gormod am y peth yn gweithio’n well i bobl eraill. Efallai byddi di’n mynd yn ôl ac ymlaen rhwng y naill ffordd a’r llall ar adegau gwahanol. Sut bynnag, hyd yn oed pan ddoi di o hyd i ffordd o ddelio â’r newyddion sy’n gweithio i ti, mae’n dal yn gallu teimlo fel rhywbeth mawr – mae llawer o bobl yn teimlo’r un fath.

Mae’r ymateb dwfn hwn yn gallu arwain at:

  • Poeni mwy am ein diogelwch ein hun a diogelwch y byd yn gyffredinol
  • Teimlo’n euog oherwydd bod pobl eraill yn dioddef
  • Teimlo’n anobeithiol a cholli rheolaeth
  • Meddwl gormod am y newyddion, sy’n golygu ei bod hi’n anodd i chi gymryd rhan mewn digwyddiadau bob dydd a’r pethau rydych chi’n eu gwneud fel arfer
  • Trafferthion cysgu neu ganolbwyntio.

Beth bynnag rwyt ti’n ei deimlo nawr, rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyngor canlynol yn dy helpu i reoli dy deimladau:

1. Cysylltu a dod o hyd i gymorth

Siarada gyda dy rieni neu ofalwyr, a ffrindiau dibynadwy am sut wyt ti’n teimlo. Cadwa mewn cysylltiad â nhw. Rhanna dy bryderon ac, os wyt ti’n gwybod pa gymorth rwyt ti ei eisiau ganddyn nhw, dyweda wrthyn nhw. Efallai bydd ffrindiau eisiau cefnogaeth gen ti hefyd. Rydyn ni’n gallu teimlo’n llai unig pan fyddwn yn sylweddoli bod gan bobl eraill sy’n agos atom bryderon sy’n debyg i’n rhai ni.

2. Dod o hyd i dy le diogel

Yn ogystal â dod o hyd i’r bobl rwyt ti’n teimlo fwyaf diogel gyda nhw, chwilia am y llefydd hynny hefyd. Gallai hynny fod ar dy ben dy hun yn dy ystafell wely, gyda theulu yn dy gegin, neu yn y parc lleol gyda ffrindiau. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’n helpu i gael cydbwysedd yn ôl a gwneud i ti deimlo’n ddiogel yn dy fywyd bob dydd.

3. Cadw at dy arferion

Cadwa at dy arferion normal gymaint â phosib, fel y rheini sy’n ymwneud â’r ysgol neu’r coleg, a gwna dy weithgareddau arferol. Mae rheoli’r pethau rwyt ti’n gallu eu rheoli yn bwysig pan fydd hi’n ymddangos bod cymaint o bethau na fedri di eu rheoli. Paid ag osgoi gweithgareddau ac arferion bob dydd normal oherwydd dy fod yn poeni, ac os byddi di angen help i wneud rhain, gofynna am hynny. Pan fyddwn ni’n gwneud llai, mae hyn yn gallu gwneud i ni boeni mwy a theimlo ein bod ar ein pen ein hunain gyda’n teimladau – hyd yn oed os nad dyna oedd ein bwriad.

4. Tawelu dy hun

Mae poeni am bethau pan fyddwn ni’n wynebu sefyllfaoedd brawychus yn iach ac yn normal. Pan fyddwn ni’n adnabod y signal bod rhywbeth anarferol yn digwydd, mae’n ddefnyddiol atgoffa dy gorff a’th feddwl dy fod ti’n ddiogel. Mae chwaraeon yn gallu ein helpu i ddefnyddio egni ychwanegol, neu mae modd ei ddefnyddio mewn hobïau rwyt ti’n eu mwynhau, fel gwrando ar gerddoriaeth a threulio amser gyda ffrindiau. Wrth roi’r dulliau hyn gyda'i gilydd maen nhw’n gallu helpu i dy dawelu a theimlo bod gen ti fwy o reolaeth.

5. Canfod gobaith

Ceisia fod yn obeithiol a chanolbwyntio ar atebion pan fydd rhai ar gael. Mae’r sefyllfa’n ddifrifol iawn ac yn dorcalonnus, ond mae llawer o wledydd ar draws y byd yn chwilio am ffyrdd o stopio’r gwrthdaro ac mae cryn obaith yn hyn.

Cymaint ag y gallet ti, treulia llai o amser yn chwilio am ddiweddariadau am y gwrthdaro ar y newyddion ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae gwneud hyn unwaith y dydd yn ganllaw da. Drwy wneud hynny byddi di’n dal i wybod beth sy’n digwydd (ac yn poeni llai bod y sefyllfa wedi newid yn sylweddol heb i chi sylweddoli), ond mae hefyd yn llai tebygol o lenwi dy ben drwy gydol y dydd. Mae’n gallu dy helpu i gael cydbwysedd. Os wyt ti’n teimlo’n arbennig o gryf am y sefyllfa yn Wcráin, siarada gyda dy deulu am sut gallwch chi, gyda’ch gilydd, helpu i gefnogi’r rheini y mae’r gwrthdaro’n effeithio arnyn nhw’n fwy uniongyrchol. Bydd hyn yn helpu pobl eraill ond mae hefyd yn gallu gwneud i ti boeni llai oherwydd dy fod yn tynnu’r ffocws oddi ar dy hun.

Mae pobl Wcráin yn wynebu trawma rhyfel yn uniongyrchol. Ond mae gweld poen pobl eraill, gan gynnwys drwy wrthdaro a rhyfel, yn gallu bod yn brofiad trawmatig hefyd. Os wyt ti’n teimlo bod pethau’n anodd i ti ar hyn o bryd, gobeithio bydd yr awgrymiadau ymarferol hyn yn dy helpu i fynd i’r afael â hyn ac yn dy helpu i reoli sut rwyt ti’n teimlo.

Dr Roslyn Law a Dr Sheila Redfern, Seicolegwyr Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Anna Freud.

Os wyt ti'n drist ar ôl gwylio'r newyddion, cofia siarad am y peth

Os oes angen cymorth arnat ti

Dylet ti pob amser ddweud wrth rywun am y pethau rwyt ti’n poeni amdanyn nhw. Gallet ddweud wrth ffrind, rhiant, gwarcheidwad, athro neu oedolyn arall rwyt ti’n ymddiried ynddo. Os wyt ti'n cael trafferth gyda dy iechyd meddwl, mae mynd at dy feddyg teulu yn gallu bod yn lle da i ddechrau dod o hyd i help. Gall dy feddyg teulu roi gwybod i ti pa gymorth sydd ar gael i ti, awgrymu gwahanol fathau o driniaeth a chynnig archwiliadau rheolaidd i weld sut rwyt ti’n gwneud.

Os oes angen cymorth arnot ti nawr, gallet ti gysylltu â Childline, a siarad â chwnselydd. Mae eu llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Mae Meic yn wasanaeth Cymraeg sy'n cynnig llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc.

Mae rhagor o ddolenni at sefydliadau defnyddiol ar BBC Action Line (cynnwys Saesneg).