Sut mae siarad â phobl ifanc am yr ymosodiad ar Wcráin

Part ofParenting

Gan Dr Sheila Redfern, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Anna Freud

Sut mae egluro’r ymosodiad ar Wcráin i’ch plant?

Bydd nifer o rieni sy’n gweld beth sy’n digwydd ar y newyddion yn gofyn y cwestiwn hwn, heb wybod beth i’w wneud er y gorau. Cuddio’r holl beth a dweud bydd popeth yn iawn? Sut mae gwneud hynny pan mae’n llenwi’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae Tik Tok yn gwneud i bobl ifanc ofyn ‘Ai’r Trydydd Rhyfel Byd yw hwn?’ Gofynnodd fy mab ieuengaf i mi, ‘Ydy hyn fel beth wnaeth yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, Mam?’

Felly, beth yw’r ffordd orau o ymateb i chwilfrydedd naturiol a phryder cynyddol ein plant yn ystod y cyfnod dychrynllyd hwn?

Horizontal purple bar

Tawelu meddwl, ond peidio â dweud celwydd

Mae pobl ifanc yn gallu cael gafael ar lwyth o wybodaeth newyddion, a byddan nhw’n gwybod yn iawn fod Rwsia yn ymosod yn filwrol ar Wcráin. Dydy gwadu bod hyn yn digwydd o ddim budd i blant o unrhyw oed. Serch hynny, mae tawelu eu meddyliau ynghylch pa mor agos ydy hyn i’w bywydau nhw yn siŵr o helpu.

Gallech chi ddangos map o Rwsia ac Wcráin, er mwyn i chi allu gweld lle mae’r gwledydd hyn yn Ewrop a lle rydych chi’n byw. Dywedwch ei bod hi’n annhebygol iawn y bydd yr ymladd a’r bomio sy’n digwydd yn y rhanbarth hwnnw’n effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol.

Horizontal purple bar

Rheoli eich ymateb emosiynol eich hun

Mae pobl ifanc yn wych am glustfeinio ac efallai eu bod yn gwrando ar y sgyrsiau rydych chi’n eu cael gydag oedolion eraill. Peidiwch â defnyddio iaith ddramatig a brawychus gyda phobl eraill, ac wedyn newid hyn pan fyddwch chi’n siarad â’ch plant eich hun. Os ydyn nhw wedi eich clywed chi’n dweud wrth eich ffrindiau eich bod yn ofnus ac yn bryderus, yna dywedwch wrthyn nhw hefyd eich bod yn teimlo felly.

Siaradwch am y gwahaniaeth rhwng eich ofnau am bobl eraill a’ch ofnau amdanyn nhw. Gallwch gydnabod ei bod hi’n ofnadwy meddwl am bobl ddiniwed yn cael eu brifo neu eu lladd, a dylech hybu empathi yn bendant, ond dylech chi dawelu eu meddwl bod erchyllter yn brin a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwahanu hyn oddi wrth eu profiad uniongyrchol eu hunain.

Horizontal purple bar

Glynu wrth y drefn arferol

Ar ôl pob digwyddiad trawmatig, mae hi’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn dychwelyd i’r drefn arferol cyn gynted â phosibl. Dydy hyn ddim gwahanol os ydych chi’n clywed am rywbeth, yn hytrach nag yn mynd drwyddo eich hun, a dylech chi wneud yn siŵr na fydd eich plentyn yn rhoi’r gorau i unrhyw beth y byddai’n ei wneud fel rheol. Felly, os yw hynny’n golygu mynd i’r clwb nofio, cwrdd â ffrindiau, neu gadw at yr arferion normal wrth godi yn y bore ac amser bwyd, dylai’r rhain barhau.

Horizontal purple bar

Cadw teimlad o reolaeth

Efallai bydd pobl ifanc yn eu harddegau eisiau gwneud rhywbeth i fynegi eu barn am y rhyfel i bobl eraill yn y byd. Mae hyn yn gallu rhoi teimlad o reolaeth dros y sefyllfa a’u teimladau, ac mae hynny’n helpu i reoli unrhyw bryder. Bydd hefyd yn eu helpu i gysylltu â phobl eraill sydd o’r un farn â nhw ac sy’n gwrthwynebu’r rhyfel.

Yn yr un modd, mae mentrau fel casglu dillad a gwirfoddoli i helpu rhywun arall sy’n dioddef yn fwy uniongyrchol (oherwydd bod ganddyn nhw deulu yn Wcráin) yn helpu pobl ifanc i wneud synnwyr o gyfres anghredadwy o ddigwyddiadau.

Horizontal purple bar

Cynnal sefydlogrwydd yn y cartref

Pan fydd rhyfel, mae’r byd yn teimlo’n anghyfforddus ac mae’n anodd gwneud synnwyr ohono. Efallai fod hyn yn fwy amlwg byth ar ôl y pandemig, pan gafodd cymaint o synnwyr diogelwch a sefydlogrwydd pobl ifanc ei gymryd oddi arnyn nhw. Heb ei wneud yn rhy amlwg, treuliwch amser yn cyfleu’r teimlad bod y cartref yn amgylchedd diogel lle nad ydyn nhw dan fygythiad. Does dim byd wedi newid yn y cartref, yn yr ysgol na’u hamgylchedd uniongyrchol. Mae bywyd yn mynd yn ei flaen fel arfer i chi ac iddyn nhw. Gwnewch eich gorau glas i beidio â thrychinebu am y dyfodol, bydd amwysedd ‘gallai unrhyw beth ddigwydd nesaf’ wneud iddyn nhw boeni mwy fyth.

Horizontal purple bar

Rheoli eich teimladau eich hun

Efallai nad yw bob tro’n ymddangos yn amlwg, ond mae pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu harwain gan eu rhieni a’u gofalwyr, ac os ydyn ni’n edrych ar y newyddion drwy’r amser, yn sgrolio ar ein ffonau’n bryderus gan chwilio am y bwletinau diweddaraf ac yn sôn am y rhyfel o hyd (yn lle cymryd rhan yn ein harferion bob dydd), byddan nhw’n sylweddoli hyn ar unwaith ac yn poeni mwy. Siaradwch â’ch ffrindiau ac oedolion yn y teulu pan fydd angen i chi reoli eich teimladau eich hun, ond ceisiwch fod yn bwyllog ac yn normal o amgylch eich plentyn gymaint ag y bo modd. Pan fyddan nhw’n eich gweld chi’n ymdopi’n normal, mae’n debygol iawn y byddan nhw’n dilyn yr un drefn.

Horizontal purple bar

Gwirio ffeithiau a holi eto

Efallai bydd eich plentyn dod atoch chi gyda phob math o 'ffeithiau’ mae wedi’u cael ar gyfryngau cymdeithasol a thrwy sgyrsiau â chyfoedion. Efallai bydd yn dweud rhain wrthych chi, heb iddi fod yn hollol amlwg mai’r hyn mae’n ceisio ei wneud yw cadarnhau a ydych chi’n meddwl eu bod yn wir ai peidio. Ceisiwch ofyn, ‘ble glywaist ti hynny?’ a ‘dweda fwy wrtha i am hynny’, yn hytrach na dim ond dweud, ‘dydy hynny ddim yn wir’.

Os ydyn nhw wedi drysu gyda rhywfaint o’r iaith sy’n cael ei defnyddio ar y newyddion neu ar gyfryngau cymdeithasol, mae gan Newsround eirfa ddefnyddiol yn Saesneg y gallech chi ei rhannu â nhw.

Gan ddibynnu ar effaith y ‘ffeithiau’ hyn, a bydd hyn yn dibynnu’n rhannol ar eu hoedran, ceisiwch sôn am y peth eto ychydig o ddiwrnodau wedyn. Gofynnwch iddyn nhw os ydyn nhw’n dal i feddwl am y peth, neu os ydyn nhw eisiau gwybod unrhyw beth arall.

Horizontal purple bar

Peidio â phoeni os yw’n ymddangos nad ydyn nhw’n poeni

Bydd llawer o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn sgyrsiau am y rhyfel yn Wcráin ac yn poeni amdano. Bydd llawer o bobl ifanc eraill yn poeni mwy am eu safle yn y gêm bêl-droed nesaf neu’r arholiadau sydd ar y gorwel, ac mae hyn yn iawn.

Peidiwch â gorfodi sgwrs, na cheisio eu tynnu mewn i bryderon am y rhyfel, os nad yw’n rhywbeth y maen nhw eisiau meddwl amdano neu ei drafod. Gadewch i’w hymateb nhw a lefel eu diddordeb nhw eich arwain.

Horizontal purple bar

Gobeithio bydd yr awgrymiadau ymarferol hyn yn eich helpu i ddal ati i gyfathrebu â chysylltu â’ch plentyn, drwy gyfnod sy’n sicr yn heriol. Os ydych chi’n amau eich bod wedi gwneud neu wedi dweud y peth anghywir, mae’n well bod yn onest yn ei gylch. Dywedwch rywbeth fel, ‘a dweud y gwir, mae’n ddychrynllyd dydy – pan dydyn ni ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd? Dydw i ddim yn siŵr chwaith.’

Mewn cyfnod anodd mae’n gallu bod yn help mawr os ydyn ni fel rhieni a gofalwyr yn gallu dangos y ffordd orau o fyw gydag ansicrwydd – ar yr un pryd â dangos ein bod yn gallu enwi a siarad am deimladau cymhleth.

Mae Dr Sheila Redfern yn Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Anna Freud

Horizontal purple bar