BBC Teach > Teacher Support > Articles
Gan Catherine Weir
Athro ysgol gynradd ac ymgynghorydd addysg
Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf ym mis Mawrth 2022
ac fe’i diweddarwyd ym mis Chwefror 2023.

Bron i flwyddyn ers i’r rhyfel ddechrau yn Wcráin, mae athrawon yn wynebu’r her bod plant yn eu dosbarth yn chwilio am atebion.
Ydych chi’n croesawu cwestiynau gan eich dosbarth am y straeon sydd yn y newyddion neu a ydy hyn yn codi ofn arnoch chi pan ddaw hi’n amser trafod? Mae Newsround yn gallu helpu athrawon i ddelio â sefyllfaoedd o’r fath yn hyderus yn ogystal â sicrhau bod gwylwyr ifanc yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ar draws y byd.
Dyma bedair ffordd gall Newsround helpu athrawon i siarad am y newyddion:
1. Delio â newyddion anodd yn uniongyrchol
Mae cael cyfle i glywed adroddiad newyddion yn y dosbarth yn gallu bod yn rhan hirddisgwyliedig o drefn ddyddiol plant. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn enghraifft o ddigwyddiad sy'n digwydd yn y byd ar hyn o bryd y mae angen ei drafod, ond nid yw’n hawdd i unrhyw athro ddod o hyd i’r ffordd iawn o wneud hyn. Mae trafod pwnc mor eang a thorcalonnus yn ystod diwrnod ysgol prysur yn ymddangos yn dasg enfawr. Chi sy’n adnabod eich dosbarth orau a chi fydd yn gwybod trafodaeth ar ba lefel fydd y fwyaf priodol iddyn nhw. Yn gyntaf oll, byddwn i’n asesu eu dealltwriaeth o’r gwrthdaro yn gyffredinol a’r hyn maen nhw wedi’i weld a’i glywed yn barod.
Byddai modd dechrau sgyrsiau dosbarth wedyn drwy arddangos baneri Wcráin a Rwsia a gofyn i’r dosbarth os ydyn nhw wedi’u gweld nhw o’r blaen. Dylid defnyddio arferion rheolaidd fel amser cylch os ydy’r plant yn gwybod bod hwn yn ofod diogel i siarad a'u bod yn gallu dilyn rheolau amser cylch y dosbarth. Oes gan unrhyw rai o’r plant gysylltiadau â’r fyddin neu gysylltiadau teuluol ag Wcráin? Gyda phlant o’r fath, efallai byddai sgwrs mewn grŵp bach neu sgwrs un-i-un yn fwy priodol.
Mae hi’n bwysig cofio ei bod yn rhaid i ni fel addysgwyr fod yn ddiduedd a pheidio â chyflwyno ein barn ni na barn neb arall fel ffaith. Paratowch ar gyfer y drafodaeth drwy edrych ar y canllawiau, y bwletinau newyddion byw, yr erthyglau, y fideos a’r delweddau sydd gan Newsround i’w cynnig. Bydd defnyddio iaith sy’n briodol i’r oedran a pheidio â defnyddio jargon yn helpu i sicrhau bod plant yn gallu meithrin dealltwriaeth gywir o ddigwyddiadau cymhleth.
Mae modd ychwanegu at y trafodaethau gyda’r erthygl War in Ukraine: What do all the words mean? – sy’n egluro geiriau cymhleth mewn ffordd glir. Gellid rhoi geiriau allweddol o’r erthygl hon, map o Wcráin a baner Wcráin ar fwrdd bwletin newyddion i ychwanegu at yr ymdeimlad o fod yn gyfarwydd â’r newyddion cyfredol.


2. Egluro’r prif ddelweddau a straeon sy’n ymddangos ar-lein
Bydd llawer o blant yn gweld wynebau ffigyrau gwleidyddol pwysig, fel Vladimir Putin, yn y cyfryngau ond ddim yn siŵr pwy ydyn nhw. Mae defnyddio cynnwys Newsround fel: Vladimir Putin: Who is the Russian President, and what does he want? ac Ukraine invasion: Who is Volodymyr Zelensky? yn golygu y bydd y plant yn deall pwy yw’r bobl yn y lluniau.
Anogwch y disgyblion hŷn i ymchwilio i’r atebion gyda’i gilydd a gwylio rhywfaint o gasgliad fideos Newsround, i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth maen nhw’n ei gweld yn ffeithiol gywir. Bydd casgliad Newsround hefyd yn rhoi ffocws i’ch dosbarth nad yw efallai ar gael gan safleoedd rhannu fideos eraill. Gyda phlant iau, gallwch gynnig eglurhad symlach yn ystod amser cylch neu pan fyddan nhw’n tynnu lluniau neu’n chwarae gêm.
Dangoswch yr eitem Newsround How to spot misleading stories online about the Ukraine crisis i'ch disgyblion yn ystod y diwrnod ysgol. Rhowch amser i’r plant feddwl am newyddion ffug ac anogwch rieni/gofalwyr i barhau â'r sgwrs gartref. Fel athrawon, mae’n iawn peidio â chael yr ateb yn y fan a’r lle, neu deimlo ein bod yn cael ein llethu gan y cwestiynau sy’n cael eu gofyn.

3. Helpu plant eich dosbarth i reoli eu pryderon
Fel mae pob addysgwr yn ei wybod, mae straeon newyddion gofidus yn gallu bod yn ormod i rai disgyblion eu dirnad, ac mae’n bosibl i hyn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae’r erthygl Newsround Advice if you're upset by the news yn cynnwys awgrymiadau a ddylai roi cysur - yn enwedig i blant a allai deimlo y bydd y straeon newyddion maen nhw’n eu clywed yn effeithio ar eu teulu’n uniongyrchol.
Fel rydyn ni’n ei wybod, mae rhai plant yn mynd i’w cragen ac yn cuddio eu teimladau. Defnyddiwch lyfr pryderon sydd â chodau lliw yn eich dosbarth. Mae modd trafod pryderon mewn sgwrs un-i-un gydag oedolyn dibynadwy yn yr ysgol, neu mae modd eu rhannu â’r dosbarth yn ddienw yn ystod trafodaeth. Efallai eich bod eisoes wedi cael cwestiynau am bosibilrwydd rhyfel byd, consgripsiwn a rhan Prydain yn y gwrthdaro, ac mae’r rhain i’w disgwyl gan blant ar hyn o bryd. Pwysleisiwch ei bod hi’n normal teimlo fel hyn/meddwl am hyn ac er bod Prydain ac Unol Daleithiau America yn cefnogi Wcráin, dydyn nhw ddim yn anfon eu milwyr eu hunain i’r wlad.
Efallai bydd rhai plant yn fodlon ar yr wybodaeth a roddir, yn gallu ei phrosesu ac yn symud ymlaen. Fodd bynnag, efallai bydd angen tawelu meddwl llawer o blant eraill – efallai byddan nhw’n gofyn yr un cwestiwn dro ar ôl tro.
Fel athrawon, rydyn ni’n treulio cyfran fawr o’n hamser yn dilysu teimladau, yn gwneud yn siŵr nad yw plant yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu na’u beirniadu. Gyda phlant sy’n fwy pryderus, byddwn yn ailadrodd ei bod hi’n naturiol teimlo felly, a bod nifer o blant eraill yn teimlo’r un fath a bod y ffaith eu bod yn meddwl am faterion o’r fath yn dangos eu bod yn deall y byd o’u cwmpas. Mae modd cefnogi plant i siarad yn ôl â phryder yn eu pen, ei ysgrifennu yn y blwch pryderon neu gall athrawon annog y rhiant/gofalwr i barhau â’r sgwrs gartref.
Gallwch gynnig sicrwydd bod llawer iawn o bobl, gan gynnwys arweinwyr byd, yn gweithio gyda’i gilydd i geisio sicrhau heddwch – mae hyn yn cael ei gefnogi gan erthygl Newsround Ukraine refugees: What's being done to help? Dywedwch wrth eich dosbarth bod modd iddyn nhw hefyd helpu plant yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gofynnwch sut gallen nhw helpu’r plant yn Wcráin. Mae grymuso yn allweddol a gallai hyn fod drwy godi arian fel ysgol neu gasglu dillad, llyfrau a theganau i’w hanfon i ganolfan rhoddion leol.
4. Tanio dychymyg a chreadigrwydd i ysgrifennu
Mae Newsround yn rhoi newyddion y byd mewn cyd-destun ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc, sy’n golygu bod y newyddion yn ddealladwy i bawb. Bydd ei ddefnyddio’n amlach yn y dosbarth yn helpu plant i ymgyfarwyddo â fformatau adrodd newyddion, a gall annog y rheini sy’n amharod i ysgrifennu i roi pin ar bapur. Bachwch ar ddiddordeb plant mewn digwyddiadau cyfredol drwy ddefnyddio erthyglau amrywiol Newsround fel modelau ar gyfer ysgrifennu a lluniwch feini prawf llwyddiant i’r dosbarth. Dadansoddwch sut mae Newsround yn cael ei gyflwyno ac anogwch y disgyblion i roi cynnig ar fodelau a thechnegau tebyg wrth gyflwyno’r hyn maen nhw wedi’i ysgrifennu.
Gallwch ehangu ar eirfa plant eich dosbarth drwy edrych ar yr erthygl Newsround: Top headlines and new words of the day. Rhowch her i’r plant gynnwys y geiriau dyddiol newydd mewn tasg ysgrifennu neu mewn sgwrs gyda ffrind.
Er mwyn nodi blwyddyn ers ymosodiad Rwsia ar Wcráin, mae tîm Newsround wedi paratoi ffilm arbennig Ukraine: The Children's Story y cafodd ei recordio yng ngogledd y wlad. Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar fywydau a safbwyntiau pobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan y rhyfel.
Mae’r wers fyw Newsround Live Lesson a oedd yn dathlu 50 mlynedd ers dechrau’r rhaglen yn 2022, ar gael i’w gwylio o hyd. Mae’n edrych ar sut mae straeon newyddion yn cael eu llunio a hynny’n seiliedig ar y cwricwlwm.
Mae rhagor o adnoddau defnyddiol ar gael ar wefan Newsround.
Pum ffordd o reoli dy deimladau am y gwrthdaro yn Wcráin
BBC Bitesize - Cyngor

Sut mae siarad â phobl ifanc am yr ymosodiad ar Wcráin
BBC Bitesize - Cyngor

