Mae sgiliau cydweithio da yn gwella'r dysgu ym mhob maes o'r cwricwlwm.
Ac mae adnoddau cydweithio digidol yn gallu eich helpu i gynnig cyfleoedd i'ch dosbarth gydweithio.
Mae defnyddio dulliau digidol yn golygu bod projectau grŵp yn gallu bod yn rhai gwirioneddol gydweithredol. Gall dysgwyr weithio ar ddeunyddiau wedi'u rhannu ar-lein ar yr un pryd, yn lle cynhyrchu elfennau unigol ar eu pennau eu hunain.
Gyda'r dull yma o weithio fel grŵp, mae dysgwyr yn gallu canolbwyntio ar eu cryfderau unigol. Maen nhw'n gallu cymryd rolau yn y project, ac adolygu’r dogfennau yn ôl meini prawf llwyddiant gwahanol.
Hefyd mae technegau digidol yn wych o ran cynnig cyfleoedd ar gyfer asesu ffurfiannol.
Heriwch y dysgwyr i brofi unrhyw ddulliau sydd ar gael a gweld pa un yw'r mwyaf defnyddiol i gydweithio ar dasg benodol. Er enghraifft, pa ddull fyddai orau er mwyn cydweithio ar ddogfen ar yr un pryd?
Cofiwch fod meddalwedd cydweithio ar-lein ar gael yn rhad ac am ddim ar lwyfannau fel Hwb.
Gyda dulliau cydweithio digidol, mae llawer o gyfleoedd i gynnal projectau rhwng ysgolion pan fydd hi’n amhosib rhyngweithio wyneb yn wyneb.
Gallai pobl ifanc o ysgolion gwahanol gydweithio ar broject yn y Dyniaethau sy'n cymharu ffyrdd o fyw mewn ardaloedd daearyddol gwahanol. Dydy pellter ddim yn rhwystr i weithio fel tîm yn ddigidol.
Felly mae adnoddau digidol yn gallu trawsnewid nid dim ond sut rydyn ni'n cydweithio (ar yr un peth, ar yr un pryd), ond hefyd gyda phwy rydyn ni'n cydweithio (does dim ots lle maen nhw).
Mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd wrth gydweithio ar-lein.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn egluro sut mae defnyddio offer cydweithio digidol yn cyfoethogi dysgu grŵp a sgiliau cydweithredol.
Nodiadau athrawon
Gall dysgwyr ddefnyddio deunyddiau ar-lein ar yr un pryd sy'n gwneud gwaith tîm yn bosib. Mae'r offer hyn hefyd yn ei gwneud hi'n bosib gweithio gyda aelodau eraill o'r dosbarth yn yr ysgol a thra eu bod nhw gartref neu hyd yn oed weithio gydag ysgolion eraill.
Mae'n bosib cynnal projectau rhwng ysgolion, hyd yn oed ar lefel ryngwladol. Enghraifft dda o hyn fyddai project dyniaethau yn cymharu ffyrdd o fyw gyda myfyrwyr mewn gwledydd eraill.
Mae cydweithio yn ffordd dda o gael myfyrwyr i wneud y mwyaf o'u cryfderau a chyflawni tasgau penodol o fewn y grŵp. Mae adnoddau cydweithredol ar-lein megis Hwb yn ffyrdd delfrydol o ddysgu'n gydweithredol.

Mwy o'r gyfres hon:
Storio a rhannu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn siarad am y pwysigrwydd o annog myfyrwyr i storio ffeiliau mewn modd trefnus fel y gellir dod o hyd iddynt yn hawdd.

Cynllunio, cyrchu a chwilio. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am ddefnyddio offer digidol i helpu myfyrwyr gynllunio project ymchwil.

Creu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro sut i gael dysgwyr i gyfoethogi eu cyflwyniadau drwy ddefnyddio offer digidol creadigol.
