Bydd angen i'ch dysgwyr gynhyrchu gwaith sydd wedi'i gynllunio a'i ymchwilio'n dda.
I wneud hyn rhaid sefydlu nodau clir a dysgu sut i ganfod gwybodaeth a chynnwys ar-lein sy'n bosib mynd atyn nhw, yn gyfreithlon, priodol, moesegol, a dibynadwy.
Mae nodi amcanion yn rhan allweddol o gynllunio. Pa effaith mae’r dysgwyr eisiau i'w gwaith ei chael? I bwy mae'r gwaith? A pha fath o gyfryngau fydd orau i gyfleu eu syniadau?
Gall dysgwyr ddefnyddio dulliau digidol i’w helpu i gynllunio – gallen nhw greu bwrdd stori, “Mynydd Stori”, neu fap meddwl.
Wrth ddechrau ymchwilio ar gyfer projectau, yr her fawr yw penderfynu ar ansawdd a dilysrwydd y ffynonellau sydd ar gael.
Mae newyddion ffug a gwybodaeth anghywir ar-lein yn rhemp. Felly, er bod canfod gwybodaeth ar y rhyngrwyd yn haws nag erioed, mae canfod gwybodaeth ddibynadwy yn fwy anodd.
Mae rhai o nodweddion y we, fel abwyd clicio a siambrau atsain yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy anodd cyrchu ffynonellau dibynadwy.
Mae'n bwysig gwybod sut i chwilio'n gywir. Arbrofwch drwy roi geiriau allweddol ac ymadroddion mewn peiriannau chwilio. Mae termau anghywir neu amhenodol yn dal i roi canlyniadau, ond nid y rhai bydden ni eisiau, efallai.
Dylai dysgwyr wirio pob ffynhonnell yn ofalus am arwyddion eu bod nhw'n ddibynadwy, trwy edrych ar berthnasedd, tuedd, tystiolaeth ategol, ac enw da.
Mae angen gwirio bod ffeithiau sydd ar-lein yn gywir. Mae'n bosibl gwneud hyn drwy groesgyfeirio ffeithiau sydd ar y rhyngrwyd mewn nifer o wefannau sydd ag enw da.
Mae’n rhaid i bawb gwestiynu ffynonellau ar-lein er mwyn troi’r llanw yn erbyn gwybodaeth anghywir, ac ystyried pam bo’r syniadau sydd ynddyn nhw'n cael eu cyflwyno fel ffeithiau.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am ddefnyddio offer digidol i helpu myfyrwyr gynllunio project ymchwil.
Nodiadau athrawon
Gallai byrddau stori ac offer mapio meddwl fod yn ddefnyddiol iawn wrth gynllunio project.
Mae hi hefyd yn hollbwysig bod myfyrwyr, wrth iddyn nhw ymchwilio project, yn archwilio ffynonellau'r ymchwil hwnnw. Tra eu bod hi'n hawdd dod o hyd i wybodaeth ar-lein, dydy'r wybodaeth honno ddim bob amser yn ddibynadwy gan fod tipyn o "newyddion ffug" ar y rhyngrwyd.
Mae angen i fyfyrwyr ddysgu sut i chwilio yn gywir ac i gadw llygad allan am wefannau sy'n dangos tuedd ac i fod yn ymwybodol o "siambrau atsain" sy'n deillio o'u meini prawf chwilio.
Dylai dysgwyr wirio'r wybodaeth maen nhw wedi dod o hyd iddi gan ddefnyddio gwefannau perthnasol sydd ag enw da, a dysgu i gwestiynu ffynonellau ar-lein.

Mwy o'r gyfres hon:
Creu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro sut i gael dysgwyr i gyfoethogi eu cyflwyniadau drwy ddefnyddio offer digidol creadigol.

Gwerthuso a gwella. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am bwysigrwydd gwerthuso a sut y gall myfyrwyr wella eu gwaith os ydyn nhw'n dysgu ei wneud yn effeithiol.

Datrys problemau a modelu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro dadelfennu, sy'n rhan bwysig o ddatrys problemau i fyfyrwyr ac yn ffordd iddynt ddefnyddio sgiliau meddwl allweddol.
