Mae datblygu sgiliau llythrennedd data a meddwl cyfrifiadurol yn ein helpu i ddatrys problemau’n rhesymegol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.
Cam cyntaf defnyddio meddwl cyfrifiadurol i ddatrys problemau yw torri tasg gymhleth yn gamau haws eu trin. Dadelfennu yw'r enw ar hyn. Mae'n rhywbeth rydyn ni'n ei wneud yn naturiol wrth wneud tasgau bob dydd, fel coginio.
Mae'n rhaid ystyried sut i baratoi a choginio cynhwysion a sut i'w gweini nhw. Trwy ddarganfod yr atebion i'r problemau bach hyn gallwch chi nodi rhestr o gamau i'w dilyn.
Wedyn gallwch chi wneud cynllun gan ddefnyddio'r camau. Algorithm yw'r enw ar hyn – sef rhestr o gyfarwyddiadau gam wrth gam.
Mewn algorithm ar gyfer gwneud sglodion, byddai angen rhoi'r cyfarwyddiadau i olchi, torri a ffrio'r tatws, yn y drefn honno.
Gallwch chi ysgrifennu algorithm fel siart llif. Mae hyn yn ei gwneud hi’n hawdd gweld beth yw'r cyfarwyddiadau ac ym mha drefn i’w dilyn nhw.
Ac os oes gennych chi algorithm i ddatrys un broblem, gallwch chi addasu'r camau i ddatrys problemau tebyg mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Pan fyddwch chi'n gwybod rysáit saws caws, gallwch chi ei ddefnyddio mewn llawer o ryseitiau gwahanol.
Mae meddwl fel hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol os yw dysgwyr yn chwilio am y rysáit i wneud saws caws neu’n ysgrifennu traethawd.
Mae’n bosib torri traethawd yn rhannau llai, sef: cyflwyniad, prif gorff y drafodaeth, a chasgliad.
Wedyn mae'n bosibl dadelfennu pob un o'r camau ymhellach. Mae gan bob paragraff yn y prif gorff brif bwynt, tystiolaeth i'w gefnogi a brawddeg i gloi.
Wedyn gallwch chi ddefnyddio'r drefn hon i feddwl am strwythur, cynllun neu algorithm ar gyfer ysgrifennu'r traethawd.
Mae'r ymarfer “athro-robot” poblogaidd yn ffordd hwyliog i esbonio sut i ddatrys problemau drwy ddefnyddio meddwl cyfrifiadurol yn y dosbarth.
Mae dysgwyr yn rhaglennu eu “hathro robot” naill ai i wneud tasg bob dydd neu dasg sy’n ymwneud â’r maes dysgu lle maen nhw'n gweithio.
Gallen nhw roi cyfarwyddiadau i'w hathro gymryd cig gosb, canu’r piano, neu beintio llun.
Yn yr ymarfer hwn, mae'r dysgwyr yn dadelfennu pob tasg yn weithredoedd unigol ac yn gweiddi eu cyfarwyddiadau’n uchel, gam wrth gam, i'r athro eu dilyn. Yn anaml mae'r camau'n gywir y tro cyntaf, felly maen nhw'n dysgu sut i gywiro gwallau nes bod set gywir o gyfarwyddiadau ganddyn nhw.
Mae torri problemau cymhleth yn gamau haws eu trin er mwyn eu datrys yn rhywbeth mae llawer ohonoch chi’n ei wneud yn barod bob dydd, heb feddwl am y peth.
Drwy dynnu sylw'r dysgwyr at hyn, byddwch chi’n gwella eu gallu i ddatrys problemau, gyda chyfrifiadur neu hebddo fe/fo.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro dadelfennu, sy'n rhan bwysig o ddatrys problemau i fyfyrwyr ac yn ffordd iddynt ddefnyddio sgiliau meddwl allweddol.
Nodiadau athrawon
Dadelfennu yw'r weithred o dorri problem gymhleth lawr yn gyfres o dasgau haws eu trin. Rydyn ni'n gwneud hyn bob dydd wrth wneud pethau fel coginio neu wisgo ein dillad. Rydyn ni'n dilyn set o gyfarwyddiadau mewn trefn benodol er mwyn cyflawni'r hyn rydyn ni ei eisiau.
Mae set syml o gyfarwyddiadau gam-wrth-gam hefyd yn cael ei alw'n algorithm. Gallwch chi ysgrifennu algorithm fel siart llif sy'n dangos y camau gwahanol yn y drefn sydd angen eu cyflawni.
Gallwn ni ddadelfennu tasgau addysgol ac ysgrifennu algorithmau ar gyfer eu cyflawni. Mae'n bosib torri traethawd lawr mewn i gyflwyniad, prif gorff a chasgliad. Yna gellir torri'r rhain lawr i baragraffau ac mae pob un angen prif bwynt, tystiolaeth i'w gefnogi a brawddeg i gloi.
Mae'r clip hwn yn disgrifio ymarfer sy'n galw am ddadelfennu a chreu algorithm. Yn yr ymarfer “athro-robot” mae'r dosbarth yn ysgrifennu set o gyfarwyddiadau i athrawon eu dilyn er mwyn cyflawni tasg. Gan nad yw'r myfyrwyr yn aml yn rhoi'r cyfarwyddiadau cywir y tro cyntaf, mae'n rhaid iddyn nhw eu cywiro tan fod y dasg wedi ei chyflawni'n llwyddiannus.

Mwy o'r gyfres hon:
Llythrennedd gwybodaeth a data. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am bwysigrwydd llythrennedd data, sef y gallu i ddarllen, deall, creu a chyfleu data fel gwybodaeth.

Hunaniaeth, delwedd ac enw da. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pam ei bod hi'n bwysig i fyfyrwyr wybod sut i warchod eu hunaniaeth ar-lein.

Iechyd a lles. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod pa mor bwysig yw hi i fyfyrwyr ddysgu sut i ryngweithio ar-lein.
