Llythrennedd data yw'r gallu i ddarllen, deall, creu a chyfathrebu data fel gwybodaeth. Mae'n gallu cynnwys casglu, coladu a dadansoddi gwybodaeth, a hynny er mwyn deall a rhagfynegi'n fwy cywir beth fydd yn digwydd mewn sefyllfaoedd arbennig.
Mae'n sgìl sy'n dod yn fwyfwy pwysig, ac mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdano.
Mae'n bosibl cipio data â llaw, ond drwy ddefnyddio dulliau digidol rydyn ni'n gallu cipio mwy o ddata, yn fwy effeithlon.
Un ffordd o gipio data yw gwneud arolwg. Mae defnyddio ffurflenni ar-lein yn golygu ein bod ni’n gallu cipio mwy o ddata, a data sy’n fwy defnyddiol i’w dadansoddi.
Ond i gipio data da, mae angen cwestiynau da.
Bydd angen i'r dysgwyr wybod pa gwestiynau i'w holi, a sut i'w holi nhw.
Dyma bethau i’w cofio wrth greu cwestiynau arolwg:
- Dylech osgoi cwestiynau arweiniol sy'n awgrymu'r atebion yn y ffordd maen nhw wedi'u geirio, ac yn dylanwadu ar yr atebion.
- Rhowch opsiwn ateb amlddewis i bawb, hyd yn oed os mai “dim barn” neu “ddim yn gwybod” yw'r ateb hwnnw. Peidiwch â gorfodi pobl i ateb pan nad oes opsiynau perthnasol iddyn nhw.
- Trefnwch yr opsiynau atebion ar hap, rhag ofn bod pobl yn tueddu i ddewis yr opsiwn cyntaf ar y rhestr.
- Ac yn olaf, un pwnc yn unig ddylai fod ym mhob cwestiwn. Os ydych chi'n gofyn i bobl roi barn ar fwy nag un peth ar y tro, byddan nhw'n ateb am y pwnc maen nhw'n teimlo gryfaf amdano.
Ar ôl creu ffurflen, ystyriwch beth yw'r ffordd orau o ddosbarthu'r arolwg er mwyn cyrraedd y nifer cywir a'r grŵp cywir o bobl.
Mae rhestri e-bost neu dargedu cynulleidfa benodol ar gyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda i rannu arolygon ar-lein er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach a mwy perthnasol.
Ar ôl casglu'r data, mae'n bosibl eu coladu mewn taenlen. Bydd llawer o ffurflenni ar-lein yn mewnbynnu canlyniadau arolwg yn awtomatig i daenlen, sy’n arbed amser yn y dosbarth.
Pa bynnag ffordd casgloch chi’r wybodaeth, mewn arolwg ar-lein neu drwy ddefnyddio dull arall, mae adnoddau digidol yn gwneud cynrychioli a dadansoddi data yn haws hefyd.
Helpwch y dysgwyr i greu tabl amledd sy’n dangos sawl gwaith mae gwerth yn ymddangos yn eu data.
Dangoswch iddyn nhw pa mor hawdd yw hi i ddefnyddio fformiwlâu syml i gyfrifo swm a chyfartaledd yn sydyn.
Mae’n bosibl defnyddio hidlyddion mewn taenlenni hefyd i adnabod tueddiadau ar draws setiau data.
Wrth drafod data, mae'r adnoddau digidol cywir, wedi'u defnyddio yn y ffordd gywir, yn effeithiol iawn wrth gasglu a dadansoddi data ac yn arbed amser.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am bwysigrwydd llythrennedd data, sef y gallu i ddarllen, deall, creu a chyfleu data fel gwybodaeth.
Nodiadau athrawon
Gall offer digidol fod yn ddefnyddiol iawn pan yn cipio data. Mae offer megis ffurflenni holiadur ar-lein yn ein galluogi ni i gipio gwybodaeth yn gyflymach ac oddi wrth mwy o bobl na gofyn cwestiynau wyneb yn wyneb.
Fodd bynnag, mae cywirdeb y data yn ddibynnol ar yr atebion sy'n cael eu rhoi. Mae'r rhain yn eu tro ond cystal â'r cwestiynau sy'n cael eu holi.
Mae cwestiynau amlddewis yn syniad da ond dylai myfyrwyr osgoi holi cwestiynau arweiniol gan gadw at un pwnc ym mhob cwestiwn i osgoi unrhyw ddryswch wrth ateb. Dylai atebion ar gyfer cwestiynau amlddewis fod wedi eu trefnu ar hap fel nad yw pobl yn ticio'r un bocs bob tro yn ddifeddwl.
Mae angen i ddysgwyr ystyried y ffordd orau i ddosbarthu eu holiadur i'r gynulleidfa darged. Mae e-byst a grwpiau cyfryngau cymdeithasol caeëdig yn gweithio'n dda ac maen nhw'n uniongyrchol. Mae yna feddalwedd holiadur sy'n bwydo'r wybodaeth i daenlen yn awtomatig sy'n ddefnyddiol ac yn arbed amser.
Mae defnyddio tablau amlder a hidlyddion mewn taenlenni yn gallu helpu i adnabod tueddiadau o fewn y data.

Mwy o'r gyfres hon:
Hunaniaeth, delwedd ac enw da. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pam ei bod hi'n bwysig i fyfyrwyr wybod sut i warchod eu hunaniaeth ar-lein.

Iechyd a lles. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod pa mor bwysig yw hi i fyfyrwyr ddysgu sut i ryngweithio ar-lein.

Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pa mor bwysig yw hi bod myfyrwyr yn deall rheolau hawlfraint ar-lein.
