Mae hi mor hawdd copïo deunydd ar-lein fel bod torri rheolau hawlfraint yn broblem ddifrifol.
Dyna pam mae'n bwysig bod dysgwyr yn deall bod rhaid parchu gwaith creadigol pobl eraill – am resymau cyfreithiol a moesegol.
Gallech ofyn iddyn nhw ymchwilio i dermau allweddol hawliau a thrwyddedu, cyn chwilio am ddeunyddiau.
Gallech chi hefyd eu herio nhw i drafod sefyllfaoedd lle byddai hi’n bosibl torri rheolau hawlfraint.
Mae gan Gasgliad y Werin Cymru adnoddau defnyddiol er mwyn i chi gynnwys gweithgareddau tebyg yn eich cynlluniau gwersi.
Gwnewch hawliau digidol yn rhywbeth personol i'ch dysgwyr chi. Sut bydden nhw’n teimlo tasai rhywun yn copïo eu gwaith nhw ac yn dweud mai fe (fo) neu hi wnaeth e/o?
Gofynnwch iddyn nhw drafod beth maen nhw’n ei wneud ar-lein. Pa weithiau creadigol maen nhw'n eu defnyddio?
Gwnewch hi’n hollol glir fod ‘llên-ladrad’ a ‘dwyn’ yn weithgareddau anfoesegol. Gallen nhw fod yn anghyfreithlon hefyd a gallai canlyniadau camddefnyddio cynnwys digidol fod yn ddifrifol.
Dylai athrawon fodelu ymddygiad da yn y dosbarth drwy roi cydnabyddiaeth i adnoddau addysgu sydd â hawlfraint.
Defnyddiwch system gyfeirio glir a chyson i gydnabod ffynonellau yn eich gwaith chi. Gofynnwch i'r dysgwyr wneud hynny hefyd.
Mae’n rhaid i ddysgwyr ddysgu am hawliau digidol. Wedyn byddan nhw’n gallu ymddwyn yn gyfrifol wrth greu a defnyddio gwaith digidol tu allan i'r ysgol.
Dylen nhw wybod mai eithriad yw’r hawl i ailddefnyddio deunyddiau â hawlfraint at bwrpas addysgol. Delio teg yw’r enw ar hyn. Ond fel arfer, tasen nhw’n ailddefnyddio gwaith creadigol pobl eraill, byddai angen nodi pwy wnaeth y gwaith, gofyn am ganiatâd, cydnabod y gwaith, a thalu am gael ei ddefnyddio os oes angen.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pa mor bwysig yw hi bod myfyrwyr yn deall rheolau hawlfraint ar-lein.
Mae'n hawdd iawn copïo deunydd ar-lein ond gan amlaf mae hyn hefyd yn anfoesegol ac yn anghyfreithlon, a gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.
Nodiadau athrawon
Mae angen annog myfyrwyr i barchu creadigrwydd - sut bydden nhw’n teimlo petai rhywun yn copïo eu gwaith nhw?
Gall athrawon helpu drwy roi cydnabyddiaeth i ffynonellau yn y dosbarth bob amser a hefyd drwy ofyn i fyfyrwyr i ymchwilio i darddiad deunydd cyn ei ddefnyddio.
Dylai myfyrwyr hefyd ddeall ystyr y termau llên-ladrad a dwyn. Mewn rhai achosion mae'n dderbyniol i fyfyrwyr gopïo gwaith at bwrpas addysgol, ond fel arfer mae angen gofyn am ganiatâd y person greodd y gwaith, cydnabod y gwaith, a thalu am gael ei ddefnyddio.

Mwy o'r gyfres hon:
Ymddygiad ar-lein a seibr-fwlio. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod sut i gael myfyrwyr i adnabod ymddygiad ar-lein negatif.

Cyfathrebu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn trafod yr angen i annog dysgwyr i wneud y gorau o'r offer cyfathrebu digidol sydd ar gael iddyn nhw.

Cydweithio. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn egluro sut mae defnyddio offer cydweithio digidol yn cyfoethogi dysgu grŵp a sgiliau cydweithredol.
