Mae’n bwysig atal dysgwyr rhag ymddwyn yn wael ar-lein. I wneud hyn, rhaid annog ymddygiad da a’u gwneud nhw’n ymwybodol o’r peryglon.
Yn gyntaf, rhaid pwysleisio gallwn ni ddefnyddio adnoddau cyfathrebu digidol mewn ffordd bositif.
Un enghraifft yw galwadau fideo gydag ysgolion ledled y byd. Dyma gyfle i bobl ifanc addasu sut maen nhw'n rhyngweithio ar-lein, yn ôl y gynulleidfa ac ystyried gwerthoedd diwylliannol pobl eraill.
Yn ail, er mwyn atal ymddygiad negyddol a pheryglus ar-lein, rhaid i ddysgwyr allu adnabod yr ymddygiad yna.
Un ffordd fyddai gofyn iddyn nhw ddiffinio beth yw seibr-fwlio ac ymddygiad cysylltiedig.
Trafodwch wahanol fathau o seibr-fwlio. Yna, gofynnwch i'r dysgwyr ystyried eu hymddygiad nhw eu hunain drwy greu holiadur am eu profiadau.
Edrychwch yn ofalus ar bwy sy'n postio sylwadau cas. Hefyd, tynnwch sylw at y cliwiau sy’n ein rhybuddio bod rhai yn trolio, fel pobl sy’n postio heb ddefnyddio’u henwau go iawn.
Ffordd dda o gyflwyno’r pwnc hwn fyddai cael dadl ddosbarth, naill ai o blaid gwneud i drolio fod yn drosedd neu o blaid rhyddid mynegiant.
Mae’n rhaid i ddysgwyr wybod ei bod hi'n bwysig datblygu strategaethau i osgoi sefyllfaoedd peryglus.
Defnyddiwch enghreifftiau o fywyd go iawn am effaith seibr-fwlio ar iechyd a lles(iant) pobl ifanc.
Mae dysgwyr yn gallu gwneud pethau i fod yn ddiogel, fel defnyddio cyfrineiriau, gosodiadau preifatrwydd, blocio a dileu sylwadau, a chofio allgofnodi.
Er mwyn i’r rhyngrwyd fod yn fwy diogel, mae angen i bawb wneud ymdrech i sicrhau bod y pethau rydyn ni'n eu gwneud ar-lein ddim yn gwneud niwed i ni nac i bobl eraill.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod sut i gael myfyrwyr i adnabod ymddygiad ar-lein negatif.
Nodiadau athrawon
Gallwn ni atal ymddygiad ar-lein gwael drwy annog rhyngweithio da a phositif. Enghraifft o hyn fyddai trefnu galwadau fideo gydag ysgolion ar draws y byd.
Ffordd dda o gael myfyrwyr i adnabod ymddygiad risg uchel yw gofyn iddyn nhw werthuso eu harferion ar-lein eu hunain, ee wrth ateb holiadur.
Mae hefyd angen iddyn nhw adnabod arwyddion trolio. Dylai athrawon drefnu dadl ddosbarth ar y pwnc hwn - ai rhyddid mynegiant yw hyn neu a ddylai fod yn anghyfreithlon?
Os yw myfyrwyr yn cael eu heffeithio gan seibr-fwlio dysgwch nhw i gadw draw o unrhyw beth niweidiol ac i gymryd camau i rwystro hyn megis defnyddio cyfrineiriau, blocio, dileu sylwadau a rheoli gosodiadau preifatrwydd.

Mwy o'r gyfres hon:
Cyfathrebu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn trafod yr angen i annog dysgwyr i wneud y gorau o'r offer cyfathrebu digidol sydd ar gael iddyn nhw.

Cydweithio. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn egluro sut mae defnyddio offer cydweithio digidol yn cyfoethogi dysgu grŵp a sgiliau cydweithredol.

Storio a rhannu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn siarad am y pwysigrwydd o annog myfyrwyr i storio ffeiliau mewn modd trefnus fel y gellir dod o hyd iddynt yn hawdd.
