Mae’n haws trefnu ein gwaith os defnyddiwn ni system syml i storio ffeiliau.
Mae trefnu ein ffeiliau'n debyg i gadw trefn yn y byd go iawn.
Mewn systemau rheoli ffeiliau da, fel mewn tai taclus, mae popeth yn cael ei storio'n rhesymegol, ac mae'n hawdd cael gafael arno.
Drwy storio eu ffeiliau a'u ffolderi gyda'i gilydd a dewis enwau priodol, bydd hi'n haws i ddysgwyr ddod o hyd i'w gwaith.
Helpwch eich dysgwyr i nodi “cartref” addas i'w ffeiliau. Os storiwch chi ffeiliau ar ddyfais, dim ond o fan ‘na cewch chi fynediad atyn nhw. Drwy eu storio nhw yn y cwmwl, cewch chi fynediad atyn nhw o unrhyw ddyfais ac mae'n haws eu rhannu nhw.
Dylai ffolderi gael eu trefnu yn ôl categori neu fath fel bod modd chwilio amdanyn nhw. Mae enwau byr a phenodol i ffeiliau a ffolderi’n dweud yn syth beth sydd ynddyn nhw.
Efallai bydd dysgwyr yn dewis cael dwy brif ffolder ar gyfer ‘Ysgol’ a ‘Personol’, gyda'r ffolder ‘Ysgol’ yn cynnwys is-ffolder i bob maes dysgu.
Ond peidiwch â chael gormod o is-ffolderi! Mae’n haws cyrraedd at ffeiliau os yw’r llwybrau’n syml.
Efallai bod hyn yn rhywbeth sylfaenol ond mae'n gyngor sy'n werth ei bwysleisio o'r dechrau. Bydd yn arbed amser yn y pen draw.
Rhaid cadw ffolderi'n daclus hefyd. Dylai dysgwyr archifo'r ffeiliau nad oes eu hangen bellach a dylen nhw osgoi dyblygu ffeiliau.
Mae cysondeb yn allweddol. Penderfynwch ar ddull o drefnu eich ffeiliau a'ch ffolderi a chadw ato, fel gallwch chi ddod o hyd i bopeth eto.
Mae cadw tŷ taclus yn llawer haws na gwneud llwyth o glirio unwaith y flwyddyn.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn siarad am y pwysigrwydd o annog myfyrwyr i storio ffeiliau mewn modd trefnus fel y gellir dod o hyd iddynt yn hawdd.
Mae hi'n cymharu trefniadaeth ddigidol dda gyda bod yn drefnus yn y byd go iawn - mewn tŷ taclus mae gan bob peth ei le ac mae'n hawdd dod o hyd i bethau.
Nodiadau athrawon
Dylai athrawon gael y dysgwyr i ddefnyddio system syml a chyson wrth drefnu'r ffolderi lle maen nhw'n cadw eu gwaith fel ei bod hi'n hawdd dod o hyd i ffeiliau. Mae rhoi enwau addas i'r ffolderi a'r ffeiliau yn ei gwneud hi'n hawdd gweithio allan beth yw eu cynnwys.
Gellir rhannu'r ffolderi yn is-ffolderi er mwyn gwneud pethau'n fwy trefnus - ond dylai dysgwyr osgoi creu gormod o is-ffolderi er mwyn cadw'r llwybrau at y ffeiliau yn syml.
Mae rhannu hefyd yn bwysig ac mae angen i fyfyrwyr feddwl lle yw'r lle gorau i gael mynediad i'w ffeiliau. Dydy eu storio ar ddyfais ddim bob amser yn beth doeth am mai dim ond ar y ddyfais honno maen nhw. Mae storio ffeiliau yn y cwmwl yn galluogi mwy o bobl i gael mynediad iddyn nhw.
Mae storio mewn modd taclus yn allweddol i drefniadaeth dda ac i hwyluso pethau.

Mwy o'r gyfres hon:
Cynllunio, cyrchu a chwilio. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am ddefnyddio offer digidol i helpu myfyrwyr gynllunio project ymchwil.

Creu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro sut i gael dysgwyr i gyfoethogi eu cyflwyniadau drwy ddefnyddio offer digidol creadigol.

Gwerthuso a gwella. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am bwysigrwydd gwerthuso a sut y gall myfyrwyr wella eu gwaith os ydyn nhw'n dysgu ei wneud yn effeithiol.
