Mae dewis yr adnoddau digidol cywir ar gyfer tasg yn gallu helpu dysgwyr i fod yn fwy creadigol.
Does dim angen i chi arbenigo ar bob adnodd creu digidol – eich rôl chi yw annog dysgwyr i arbrofi cyn dewis pa un i'w ddefnyddio.
Mae projectau grŵp creadigol lle mae angen dweud stori neu esbonio proses yn cynnig cyfle i ddysgwyr weithio gydag amrywiaeth o feddalwedd i greu elfennau amlgyfrwng.
Mae'n bwysig mai’r dysgwyr eu hunain sy’n dewis y math o gyflwyniad maen nhw eisiau ei greu, a'r mathau o elfennau amlgyfrwng fydd ynddo fe/fo – testun, fideo, delweddau, a sain.
Helpwch nhw i ddewis y feddalwedd sy’n addas i’r cyfryngau maen nhw wedi penderfynu gweithio gyda nhw.
Rhowch gyfle i’r dysgwyr ddewis o blith yr holl adnoddau digidol sydd ar gael iddyn nhw.
Mae hyn yn cynnwys gwneud defnydd llawn o'r nodweddion sy’n dueddol o gael eu hanghofio mewn meddalwedd poblogaidd, fel templedi dogfen.
Mae ansawdd y dysgu'n gwella pan fydd dysgwyr yn gwneud penderfyniad ymwybodol i ddefnyddio'r dulliau mwyaf addas i gyfleu eu syniadau.
Felly, mae'n bwysig eich bod chi'n eu hannog nhw i werthuso eu dewisiadau drwy gydol yr holl broses greadigol a’u bod nhw’n cael adborth ffurfiannol rheolaidd.
Mae rhai projectau’n cynnig cyfle i ddysgwyr addasu sut maen nhw’n defnyddio cyfryngau ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.
Gallen nhw greu dau gyflwyniad ar ymddygiad ar-lein priodol i noson rieni, un i'w cyfoedion a'r llall i'r rhieni.
Pan fydd dysgwyr yn asesu eu gwaith gorffenedig, gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n ystyried sut mae adnoddau digidol wedi'u helpu i gyflawni eu hamcanion, a beth gallen nhw ei wneud yn wahanol y tro nesa.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro sut i gael dysgwyr i gyfoethogi eu cyflwyniadau drwy ddefnyddio offer digidol creadigol.
Nodiadau athrawon
Mae hi i fyny i athrawon i wneud y myfyrwyr yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw ond wedyn dylen nhw adael i'r dysgwyr arbrofi gyda'r offer creadigol hyn a gwneud y mwyaf ohonyn nhw.
Bydd y math o gyflwyniad sy'n cael ei roi yn dibynnu ar ba offer mae'r myfyrwyr yn dewis ei ddefnyddio.
Gall yr elfennau amlgyfrwng mewn cyflwyniad gynnwys testun, fideo, sain a delweddau. Mae'n bosib cyfoethogi pob un o'r rhain drwy ddefnyddio'r offer digidol cywir a'r meddalwedd cywir. Dylid arbrofi gyda nodweddion meddalwedd sy'n dueddol o gael eu hanghofio, ee templedi dogfen.
Dylai athrawon annog myfyrwyr i werthuso eu dewisiadau wrth weithio ar broject. Ar ddiwedd y dasg gofynnwch i fyfyrwyr adlewyrchu ar eu gwaith er mwyn darganfod a fydden nhw'n gwneud unrhyw beth yn wahanol y tro nesaf.

Mwy o'r gyfres hon:
Gwerthuso a gwella. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am bwysigrwydd gwerthuso a sut y gall myfyrwyr wella eu gwaith os ydyn nhw'n dysgu ei wneud yn effeithiol.

Datrys problemau a modelu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro dadelfennu, sy'n rhan bwysig o ddatrys problemau i fyfyrwyr ac yn ffordd iddynt ddefnyddio sgiliau meddwl allweddol.

Llythrennedd gwybodaeth a data. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am bwysigrwydd llythrennedd data, sef y gallu i ddarllen, deall, creu a chyfleu data fel gwybodaeth.
