Nid dim ond disodli dulliau traddodiadol mae dulliau digidol o gyfathrebu. Maen nhw'n gallu cyfoethogi'r dysgu hefyd.
Does dim disgwyl i athrawon arbenigo ar bob dull cyfathrebu. Dylech chi annog dysgwyr i fynegi eu syniadau mewn ffyrdd gwahanol, a nhw ddylai benderfynu sut.
Mae hyn yn golygu annog dysgwyr i ddewis yn annibynnol o'r amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu sydd ar gael. Gallan nhw ddefnyddio’r feddalwedd am ddim sydd ar gael i ysgolion.
Yn Hwb, gallwch chi greu “dosbarth” rhithwir, ychwanegu dysgwyr, a chreu “trafodaethau”, fel bod grwpiau cyfan yn rhyngweithio ar-lein.
Mae adnoddau fel hyn yn gallu pontio pellter a chysylltu pobl ifanc â chyfleoedd dysgu newydd, cyffrous.
Bydd dulliau cyfathrebu gwahanol yn helpu dysgwyr i gyflawni canlyniadau dysgu gwahanol. Er enghraifft, gallen nhw ddewis flog i gyflwyno syniadau, podlediad ar gyfer mynegiant personol, galwadau fideo ar gyfer ymchwil, a ffeithluniau er mwyn adolygu.
Gallwch chi herio dysgwyr i nodi'r dulliau fyddai fwyaf defnyddiol yn eu barn nhw er mwyn cyflawni eu hamcanion.
Mae projectau grŵp yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu'r cymhwysedd digidol yma. Er enghraifft, dosbarth yn cydweithio i gynllunio taith gwaith maes rithwir i ymchwilio i bwnc penodol.
Wrth asesu, rhowch sylw penodol i sut mae'r dulliau cyfathrebu a ddewisodd y dysgwyr wedi helpu i wella eu gwaith. Efallai bydd unigolion llai hyderus, sydd ddim yn hoffi siarad yn gyhoeddus, yn gallu mynegi eu hunain yn fwy effeithiol mewn podlediadau.
Drwy ddysgu sut mae dewis yr adnodd digidol cywir i'r dasg dan sylw, mae dysgwyr yn gallu cyfathrebu a gweithio’n fwy effeithlon.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn trafod yr angen i annog dysgwyr i wneud y gorau o'r offer cyfathrebu digidol sydd ar gael iddyn nhw.
Nodiadau athrawon
Dydy cyfathrebu digidol ddim yn disodli dysgu traddodiadol ond mae'n gallu cyfoethogi'r profiad. Dylai athrawon adael i'r myfyrwyr ddewis pa ddull o gyfathrebu digidol yw'r un mwyaf addas ar gyfer project penodol.
Dylid defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer deilliannau dysgu gwahanol, er enghraifft byddai flogiau'n berffaith ar gyfer cyflwyniad tra byddai ffeithluniau yn addas ar gyfer adolygu. Mae Hwb yn ddelfrydol ar gyfer cysylltu gyda dysgwyr eraill ar gyfer trafodaethau a phrojectau dosbarth.
Dylai athrawon adael i'r myfyrwyr ganfod pa ddulliau ac offer fyddai'r rhai gorau i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Mae offer digidol hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer cynyddu hyder myfyrwyr, ee gallai podlediad fod yn opsiwn da ar gyfer myfyriwr sy'n nerfus wrth siarad yn gyhoeddus. Mae'r defnydd cywir o offer cyfathrebu digidol yn gwneud dysgu'n fwy effeithiol ac effeithlon.
Nodiadau cwricwlwm
Mae'r clip hwn yn berthnasol i ddysgu yn CA3 a CA4 yng Nghymru.

Mwy o'r gyfres hon:
Cydweithio. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn egluro sut mae defnyddio offer cydweithio digidol yn cyfoethogi dysgu grŵp a sgiliau cydweithredol.

Storio a rhannu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn siarad am y pwysigrwydd o annog myfyrwyr i storio ffeiliau mewn modd trefnus fel y gellir dod o hyd iddynt yn hawdd.

Cynllunio, cyrchu a chwilio. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am ddefnyddio offer digidol i helpu myfyrwyr gynllunio project ymchwil.
