Does dim dwywaith bod ein harferion ni yn y byd go-iawn yn cael effaith ar ein hiechyd ni.
Mae hynny’n wir am ein hymddygiad ar-lein ni hefyd.
Rhaid i ddysgwyr allu ymdopi ag agweddau negyddol rhyngweithio ar-lein. Dylen nhw ddysgu am ymddygiad cadarnhaol ar-lein a sylweddoli beth sy'n annerbyniol.
Mae gwneud a gweld pethau ar-lein yn newid ein hunan-ddelwedd a’n syniadau ni’n gyffredinol.
Mae gwahaniaethu rhwng y stereoteipiau rydyn ni'n eu gweld ar-lein a’r byd go iawn yn gallu bod yn anodd, yn enwedig i bobl ifanc. Mae hyn yn gallu creu syniad anghywir o realiti, sy’n gallu bod yn berygl i iechyd a lles.
Mae'n anodd gwahaniaethu rhwng beth sy’n wir a beth sy’n ffug ar-lein.
Dylai dysgwyr ystyried pa mor hawdd yw hi i bobl gamddefnyddio llwyfannau ac adnoddau digidol i drin a newid y gwirionedd, am resymau anfoesegol, weithiau.
Mae angen i ddysgwyr wybod bod algorithmau’n gallu gwneud i’r broblem hon fynd yn waeth. Yr algorithmau hyn sy’n penderfynu pa gynnwys mae defnyddwyr yn ei weld, ar sail beth maen nhw wedi edrych arno’n barod. Oherwydd hyn, mae’n bosibl i ddefnyddwyr fynd i siambrau atsain ar-lein lle maen nhw ond gweld safbwyntiau tebyg.
Peryglon ar-lein eraill yw stelcian seibr, aflonyddu a radicaleiddio. Gallwch chi ddefnyddio adroddiadau ac erthyglau am achosion i ddangos yr effaith seicolegol a chorfforol bosibl.
Ceisiwch annog y dysgwyr i wneud yn siŵr bod eu cyfraniadau digidol personol nhw’n rhai positif bob amser. Dylen nhw aros am funud cyn postio, yn union fel y dylen nhw feddwl cyn siarad.
Mae dweud a gwneud pethau niweidiol ar-lein yr un mor ddinistriol ac annerbyniol â’u gwneud nhw wyneb yn wyneb. Mewn rhai achosion, mae'n anghyfreithlon.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod pa mor bwysig yw hi i fyfyrwyr ddysgu sut i ryngweithio ar-lein.
Mae'n egluro bod yr hyn rydyn ni'n ei wneud mewn bywyd yn effeithio ein iechyd a'n lles. Mae'r un peth yn wir am ein bywyd ar-lein - mae angen i ni fod yn ofalus beth rydyn ni’n ei wneud ac yn edrych arno. Yn aml, mae'r hyn sy'n cael ei gyflwyno ar-lein yn stereoteip sydd ddim yn cynrychioli realiti.
Nodiadau athrawon
Mae angen i fyfyrwyr allu gwahaniaethu rhwng y pethau maen nhw'n ei weld ar-lein sy'n wir a'r pethau sydd ddim yn wir. Gall algorithmau ddewis beth mae'r myfyriwr yn ei weld ar-lein sydd wedyn yn ei harwain i siambr atsain lle maen nhw ond yn gweld safbwyntiau sy'n debyg i'w gilydd.
Mae peryglon ar-lein eraill yn cynnwys stelcian seibr, aflonyddu a radicaleiddio.
Mae'n rhaid annog myfyrwyr i wneud sylwadau positif ar-lein. Dylen ni aros am funud cyn postio, yn union fel y dylen ni feddwl cyn siarad. Mae cynnwys ar-lein negyddol yn annerbyniol a weithiau'n anghyfreithlon.

Mwy o'r gyfres hon:
Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pa mor bwysig yw hi bod myfyrwyr yn deall rheolau hawlfraint ar-lein.

Ymddygiad ar-lein a seibr-fwlio. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod sut i gael myfyrwyr i adnabod ymddygiad ar-lein negatif.

Cyfathrebu. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn trafod yr angen i annog dysgwyr i wneud y gorau o'r offer cyfathrebu digidol sydd ar gael iddyn nhw.
