Does neb eisiau creu embaras ar-lein. Mae'n gallu effeithio arnon ni yn y byd go iawn - yn broffesiynol ac yn bersonol. A dyna pam dylen ni gymryd cyfrifoldeb dros sut rydyn ni’n ymddangos yn y byd digidol.
Mae'n bwysig bod dysgwyr yn greadigol ond yn ystyriol ac yn ofalus ar-lein. Dylen nhw ddeall bod unrhyw beth maen nhw'n ei wneud ar-lein yn gallu para am byth.
Mae beth rydyn ni’n ei wneud ar-lein yn gadael trywydd y gall unrhyw un ei ddilyn - nid dim ond i deulu a ffrindiau - ond cyflogwyr, hysbysebwyr, corfforaethau mawr a hyd yn oed troseddwyr seibr.
Ond, mae yna newyddion da - mae modd rheoli eich ôl troed digidol.
Os rhowch chi eich enw mewn i beiriannau chwilio, fe welwch chi y trywydd rydych chi wedi ei adael. Mae angen i ddysgwyr wybod sut i ddiogelu eu hunaniaeth ar-lein. Dylen nhw wirio eu gosodiadau preifatrwydd, creu cyfrineiriau cryf, a rheoli cwcis a’u hanes pori. Dylen nhw wybod hefyd bod modd gofyn i ddeunydd gael ei dynnu i lawr.
Mae bod yn bresenoldeb positif ar-lein hefyd yn ran o reoli ôl troed digidol. Gwnewch hi’n glir i ddysgwyr y bydd hyn yn gwella eu henw da ac felly’n help iddyn nhw gael swyddi.
Wrth fod yn greadigol ar-lein, gall pobl ifanc ddarganfod pwy ydyn nhw a dysgu sut i fynegi eu hunain yn fwy hyderus.
Dyna pam mae’n rhaid i ni annog pobl ifanc i ymddwyn yn adeiladol ar-lein. Dylen nhw gyhoeddi cynnwys cadarnhaol sy'n adlewyrchu’n dda arnyn nhw ac yn ysbrydoli eraill.
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pam ei bod hi'n bwysig i fyfyrwyr wybod sut i warchod eu hunaniaeth ar-lein.
Tra dylen ni annog myfyrwyr i ddefnyddio adnoddau ar-lein, eu cyfrifoldeb nhw yw rheoli eu hunaniaeth ar-lein mewn ffordd gyfrifol.
Nodiadau athrawon
Mae angen i fyfyrwyr ddeall bod cynnwys ar-lein yn gallu para am byth a bod unrhyw gynnwys negyddol yn gallu adlewyrchu'n wael arnyn nhw. Dylen nhw wybod bod eu gweithgareddau ar-lein yn gadael trywydd y gallai cyflogwyr posib yn ogystal â ffrindiau a theulu, a hyd yn oed troseddwyr seibr ei ddilyn. Mae'n bosib rheoli eu hôl troed digidol.
Dylai myfyrwyr gael eu hannog i fod yn greadigol a meddylgar ar-lein a gwybod y bydd hyn yn adlewyrchu'n dda arnyn nhw. Ond ar yr un pryd mae angen iddyn nhw fod yn ofalus beth maen nhw'n ei roi ar-lein a deall hefyd ei bod hi'n bosib gofyn i unrhyw gynnwys negyddol gael ei dynnu lawr.
Mae bod yn gyfrifol ac yn ofalus, a gwirio eich ôl troed ar-lein yn gallu helpu sicrhau nad yw unrhyw gynnwys negyddol yn cael ei weld.

Mwy o'r gyfres hon:
Iechyd a lles. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod pa mor bwysig yw hi i fyfyrwyr ddysgu sut i ryngweithio ar-lein.

Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pa mor bwysig yw hi bod myfyrwyr yn deall rheolau hawlfraint ar-lein.

Ymddygiad ar-lein a seibr-fwlio. video
Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod sut i gael myfyrwyr i adnabod ymddygiad ar-lein negatif.
