Arolwg iard chwarae - Archwilio dysgu peirianyddol

Gweithgaredd casglu data dosbarth cyfan sy’n defnyddio adnodd dysgu peirianyddol micro:bit i ddangos sut mae samplau data’r byd go iawn yn cael eu defnyddio i hyfforddi modelau dysgu peirianyddol.

Gwylio’r fideo

(Fideo cyfrwng Saesneg)

Sut mae cwblhau’r gweithgaredd

Lawrlwythwch yr adnoddau. document

Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau i athrawon a'r map cwricwlwm.

Lawrlwythwch yr adnoddau

Hyfforddi model. External Link

Hyfforddwch fodel dysgu peirianyddol gan ddefnyddio adnodd dysgu peirianyddol micro:bit.

Hyfforddi model

Nodiadau i athrawon ar yr arolwg iard chwarae

  • I gwblhau’r gweithgaredd arolwg hwn, bydd angen y cyfarwyddiadau defnyddiol i athrawon arnoch chi.
  • Mae’r gweithgaredd hwn yn wers Cyfrifiadureg/TGCh yn bennaf a fydd yn adeiladu ar y themâu a’r syniadau o’r sesiynau Tracio ein gweithgaredd ac yn edrych ychydig yn fanylach ar ddysgu peirianyddol a sut mae’n gweithio. Bydd disgyblion yn cael eu cyflwyno i adnodd dysgu peirianyddol ar-lein sydd wedi cael ei greu gan Sefydliad Addysg Micro:bit.
  • Byddant yn dysgu/cael eu hatgoffa bod gan y micro:bit synhwyrydd parod, sef y cyflymydd y gellir ei ddefnyddio i fesur pan fydd y micro:bit yn cael ei symud i gyfeiriadau gwahanol. Byddant hefyd yn dysgu sut i greu eu model dysgu peirianyddol eu hunain a fydd yn gallu adnabod y gwahaniaeth rhwng symudiadau penodol.
  • Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu disgyblion i ddeall rhai o egwyddorion sylfaenol deallusrwydd artiffisial ac yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fod yn wybodus ac i allu gwneud penderfyniadau da am ddefnyddio technoleg newydd. Mae’n cynnig syniadau positif ar gyfer defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial yn gynhwysol a gallai annog disgyblion i feddwl am sut y gallai deallusrwydd artiffisial helpu i ddatrys problemau’r byd go iawn.

Pynciau sy’n cael sylw

  • Gwyddoniaeth: Defnyddio offer i fesur a chofnodi data; Casglu data a’i ddefnyddio i ateb cwestiwn gwyddonol.
  • Mathemateg a Rhifedd: Darllen a dehongli data ar ffurf tabl, siartiau a graffiau.
  • Dylunio a Thechnoleg: Profi gallu cynnyrch i gyflawni briff dylunio a/neu ddatrys problem.
  • ABaCh/Addysg Rhyw a Pherthnasoedd/Iechyd a Lles: Preifatrwydd a diogelwch data; Gwerthuso gwybodaeth ddigidol – cywirdeb, gonestrwydd a hygrededd.
  • Cyfrifiadureg/TGCh: Defnyddio gwahanol fathau o fewnbwn ac allbwn gan gynnwys synwyryddion; Cofnodi, storio, trefnu a dadansoddi data; Defnyddio technoleg yn gyfrifol ac yn ddiogel - gweler ABaCh/Addysg Rhyw a Pherthnasoedd/Iechyd a Lles.

Awgrymiadau o amcanion dysgu

  • Cyflwyniad a chynllunio: Deall bod synwyryddion yn gallu trosglwyddo data mewn amser real i raglen sy’n cael ei storio ar ddyfais gyfrifiadurol (Cyfrifiadureg/TGCh).
  • Archwilio a hyfforddi: Dysgu sut y gellir defnyddio data i greu model y gellir ei ddefnyddio wedyn i gynrychioli'r byd go iawn; Deall bod system dysgu peirianyddol deallusrwydd artiffisial yn defnyddio model i'w helpu i wneud penderfyniadau am ddata newydd (Cyfrifiadureg/TGCh).
  • Trafodaeth: Defnyddio’r hyn maen nhw’n ei ddysgu am gasglu a phrosesu data i wneud penderfyniadau gwell am dechnoleg; Datblygu hyder wrth ddarllen a dehongli data ar ffurf graffiau a thablau (Cyfrifiadureg/TGCh/Mathemateg).

Awgrymiadau o weithgareddau ymestynnol

  • Gwyddoniaeth: Dysgu mwy am strwythur ffisegol y llaw a’r fraich drwy edrych ar belydrau-X a diagramau; Archwilio mecaneg codi llaw a chlapio drwy arsylwi gweithgaredd y cyhyrau a’r cymalau; Defnyddio’r cyflymydd micro:bit a’r adnodd dysgu peirianyddol i archwilio agweddau eraill ar y corff dynol e.e. symudiadau’r coesau wrth redeg, cerdded a neidio.
  • ABaCh/Addysg Rhyw a Pherthnasoedd/Iechyd a Lles: Adolygu dealltwriaeth o ddata personol a phreifat a sut i’w gadw’n ddiogel; Trafod materion sy’n ymwneud â chydsyniad wrth ddarparu data i offer, llwyfannau a chwmnïau ar-lein – darllen drwy hysbysiadau caniatâd data enghreifftiol (e.e. hysbysiad cwcis) a chreu eu fersiynau cliriach eu hunain; Dysgu sut gall cadw data personol yn ddienw gefnogi preifatrwydd a diogelwch data wrth barhau i ganiatáu i’r data gael ei ddefnyddio.
  • Dylunio a Thechnoleg: Dylunio teclyn neu ddyfais sy’n defnyddio’r model dysgu peirianyddol rydych chi wedi’i greu; Ystyried sut y gellid ychwanegu deallusrwydd artiffisial a modelau dysgu peirianyddol at ddyfeisiau a systemau presennol – pa fath o ddata hyfforddi fyddai ei angen arno – e.e. sut i wneud y cwpan perffaith o siocled poeth.
  • Cyfrifiadureg/TGCh: Trafod sut mae dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial yn newid y ffordd rydyn ni’n defnyddio technoleg – gan ddefnyddio enghreifftiau cyfarwydd; Archwilio’r materion sy’n ymwneud â ‘bylchau’ mewn data hyfforddi a sut gallai hyn wneud model sy’n rhagfarnllyd neu’n anghywir – edrych ar rai senarios ac enghreifftiau go iawn.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae

Beth nesaf? video

Mwynhewch ddewis gweithgareddau ymestynnol gyda’ch dosbarth ar ôl i chi gwblhau’r arolwg iard chwarae.

Beth nesaf?

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae

Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae

Canllaw i athrawon a’r adnoddau i’w lawrlwytho

Popeth sydd angen ei wybod am yr arolwg iard chwarae, a'r holl adnoddau dysgu sydd ar gael i'w lawrlwytho.

Canllaw i athrawon a’r adnoddau i’w lawrlwytho