Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,22 Jan 2026,43 mins

Moore, Vipotnik ta Salech?

Y Coridor Ansicrwydd

Available for 333 days

Mae ymosodwr da yn gallu bod gwerth y byd i unrhyw glwb. Tymor yma, mae gan dri phrif glwb Cymru streicar sy'n tanio. Zan Vipotnik o Abertawe yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth gyda 13 gôl, tra bod 10 gôl Kieffer Moore wedi helpu Wrecsam i aros o fewn gafael i'r safleoedd ail-gyfle. Ac yn yr Adran Gyntaf, mae Yousef Salech wedi serennu wrth godi Caerdydd i frig yr adran. Ond pwy mae'r criw yn ystyried ydi'r gorau o'r tri? Ond mae'r drafodaeth yn cychwyn ar nodyn siomedig yn dilyn y newyddion bod capten Cymru Ben Davies wedi torri ei bigwrn. Go brin fydd o'n holliach i chwarae yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2026. Ydi o'n ddewis cyntaf yn y tîm beth bynnag? Ddim yn ôl Malcolm... Ac nid dyna'r unig sioc i ddod o geg Mr Allen... mae o'n rhannu cyfrinach ryfeddol am ei wallt yn yr 80au.

Programme Website
More episodes