Moore, Vipotnik ta Salech?
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu pwy ydi'r ymosodwr gorau ymysg Kieffer Moore, Zan Vipotnik a Yousef Salech.
Mae ymosodwr da yn gallu bod gwerth y byd i unrhyw glwb. Tymor yma, mae gan dri phrif glwb Cymru streicar sy'n tanio. Zan Vipotnik o Abertawe yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth gyda 13 gôl, tra bod 10 gôl Kieffer Moore wedi helpu Wrecsam i aros o fewn gafael i'r safleoedd ail-gyfle. Ac yn yr Adran Gyntaf, mae Yousef Salech wedi serennu wrth godi Caerdydd i frig yr adran. Ond pwy mae'r criw yn ystyried ydi'r gorau o'r tri?
Ond mae'r drafodaeth yn cychwyn ar nodyn siomedig yn dilyn y newyddion bod capten Cymru Ben Davies wedi torri ei bigwrn. Go brin fydd o'n holliach i chwarae yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2026. Ydi o'n ddewis cyntaf yn y tîm beth bynnag? Ddim yn ôl Malcolm...
Ac nid dyna'r unig sioc i ddod o geg Mr Allen... mae o'n rhannu cyfrinach ryfeddol am ei wallt yn yr 80au.
More episodes
Podcast
![]()
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.

