Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Gyrru bws o amgylch yr Arc de Triomphe, Paris.

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Gwerfyl Eidda sydd yn trafod gyrru bws o amgylch yr Arc de Triomphe, Paris. "Os na dwi'n rhoi sialens i fi fy hun dwi'm yn teimlo bod fi'n byw! " Mae hi'n trafod pwysigrwydd bod yn ti dy hun, " does dim rhaid dilyn cymdeithas". Mae'n credu'n gryf y gall pobol gyflawni unrhyw beth maen nhw eisiau mond iddyn nhw gael ffydd yn eu gallu eu hunain. Bu Gwerfyl Eidda yn gweithio gyda Mentrau Iaith yn annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg. Am 5 mlynedd bu'n diddanu teithwyr ar longau pleser yn canu. Mae wedi cynghori pobol sydd am ddechrau busnes, bu'n gweithio i Ferched y Wawr, ac fe ysgrifennodd lyfr coginio poblogaidd yn seiliedig ar ryseitiau a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. A nawr mae hi'n gyrru bysus ac wrth ei bodd yn gyrru yn Ewrop. Mae gan Beti George hefyd drwydded i yrru bws. Daw Gwerfyl yn wreiddiol o Gwm Eidda, ger Ysbyty Ifan.

Programme Website
More episodes