Gyrru bws o amgylch yr Arc de Triomphe, Paris.
Gwerfyl Eidda sydd yn trafod gyrru bws o amgylch yr Arc de Triomphe, Paris.
"Os na dwi'n rhoi sialens i fi fy hun dwi'm yn teimlo bod fi'n byw! "
Mae hi'n trafod pwysigrwydd bod yn ti dy hun, " does dim rhaid dilyn cymdeithas". Mae'n credu'n gryf y gall pobol gyflawni unrhyw beth maen nhw eisiau mond iddyn nhw gael ffydd yn eu gallu eu hunain.
Bu Gwerfyl Eidda yn gweithio gyda Mentrau Iaith yn annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg. Am 5 mlynedd bu'n diddanu teithwyr ar longau pleser yn canu. Mae wedi cynghori pobol sydd am ddechrau busnes, bu'n gweithio i Ferched y Wawr, ac fe ysgrifennodd lyfr coginio poblogaidd yn seiliedig ar ryseitiau a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. A nawr mae hi'n gyrru bysus ac wrth ei bodd yn gyrru yn Ewrop.
Mae gan Beti George hefyd drwydded i yrru bws.
Daw Gwerfyl yn wreiddiol o Gwm Eidda, ger Ysbyty Ifan.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
![]()
O ble ddaeth yr enw Ani Glass?
Hyd: 02:20





