Episode details

Available for over a year
Dyw Annie Maycox Walker ddim wedi cael bywyd hawdd ac mae hynny'n deillio o gyfnod plentyndod pan gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan ei thaid. Mae'n teimlo'n gryf bod angen iddi ddweud ei stori am nad yw'r pwnc yn ei barn hi yn cael ei drin mor agored ac y dyle fe. Mae Annie yn siarad am y cyfnod wedi i'w thaid farw. Mae hi'n awyddus i bobol wybod bod hi'n iawn i siarad os ydyn nhw wedi profi camdriniaeth ac mae help ar gael. Ar hyd y blynyddoedd mae Annie Maycox wedi dioddef o iselder ac roedd hi'n troi at fwyd i leddfu rhywfaint ar yr atgofion. Canlyniad hynny oedd iddi fagu pwysau a chyrraedd dros 20 stôn. Mae'n ddiolchgar am yr help mae wedi cael gan wahanol gyrff a nawr mae hi'n cymryd mounjaro ac wedi colli 5 stôn mewn 9 mis. Mae Annie yn gweithio fel colurwraig theatr a'r cyfryngau. Bu'n gweithio ar gyfres ddrama 'Skins' ar gyfer Sianel 4, ac E4, Rownd a Rownd ac mae hi wedi gweithio gyda Caprice y cyn model, ac actorion megis David Charles Prowse - Darth Vader, a Toby Kebbell. Bellach mae ganddi gwmni gwneud fideos pop gyda'i gŵr Jamie. Fe all y cynnwys hwn beri pryder.
Programme Website