Episode details

Available for over a year
Diogelwch Refio oedd ar ochr y Foel Ȃ’i ȏg ar ongl anhygoel, A’r tractor yn how-orwedd Ar wair lle na allai’r wedd Sefyll. Hafau nȏl safai Nhad fel beirniad yn gweld bai Arnaf; pob haf d’wedai “Paid, Ar fy llw, ‘nenw’r enaid”. O’r un fan t’ranaf innau Eiriau tad, rhegi’r to iau, Am y llethr na wȇl trem llanc, A’r rhiw na wȇl yr ieuanc. Tegwyn Pughe Jones
Programme Website