Main content
Cywydd: Diogelwch - Tegwyn Pughe Jones
Diogelwch
Refio oedd ar ochr y Foel
Ȃ’i ȏg ar ongl anhygoel,
A’r tractor yn how-orwedd
Ar wair lle na allai’r wedd
Sefyll. Hafau nȏl safai
Nhad fel beirniad yn gweld bai
Arnaf; pob haf d’wedai “Paid,
Ar fy llw, ‘nenw’r enaid”.
O’r un fan t’ranaf innau
Eiriau tad, rhegi’r to iau,
Am y llethr na wȇl trem llanc,
A’r rhiw na wȇl yr ieuanc.
Tegwyn Pughe Jones





