Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Dei, gan Aled Lewis Evans

Dei Tomos

Available for over a year

DEI Bu Dei yno drwy’r degawdau. Cerydd yw’r cof cyntaf ohono. “Dach chi blant Wrecsam yn gallu siarad Cymraeg? Ta Saeson dach chi?” Yng Nglan Llyn heriai griw o ysgol y ffin. Cerydd â gwên, a phrocio hoffus. Ond cofiais innau eiriau’r D.J o Waunfawr. Gyrfa dros ddeugain mlynedd o ddarlledu, “Heddiw”, “Llwybrau Dei” a dringo’r copaon. Arweinydd llwyfan awyddus i gau drysau Pafiliwn yr Urdd a’r Brifwyl a’r Ŵyl Gerdd Dant. “Oes 'na rywun yn gwrando arna i?” Gŵr ei fro – clerc y cyngor plwyf yn ymhyfrydu ac ymgolli yng ngogoniant Parc Cenedlaethol Eryri. “Hwyl i chi ar y tir”. Bu Dei yno drwy’r degawdau. O gadernid Ty’n Twll, Nant Peris deil Dei i hollti’r graig at deimladrwydd ein profiadau yng ngrym y cyfweliadau gafaelgar. Llwydda â gofal crefftus yr holwr cywrain ei ymchwil, i gyrraedd hanfod pob sgwrs. Heb sentimentaleiddio na gwag siarad, cyrraedd canol llonydd y person bob tro. Hollti’r lechan yn lân. Aled Lewis Evans.

Programme Website
More episodes