Dei, gan Aled Lewis Evans
DEI
Bu Dei yno drwy’r degawdau.
Cerydd yw’r cof cyntaf ohono.
“Dach chi blant Wrecsam yn gallu siarad Cymraeg?
Ta Saeson dach chi?”
Yng Nglan Llyn
heriai griw o ysgol y ffin.
Cerydd â gwên, a phrocio hoffus.
Ond cofiais innau eiriau’r
D.J o Waunfawr.
Gyrfa dros ddeugain mlynedd o ddarlledu,
“Heddiw”, “Llwybrau Dei” a dringo’r copaon.
Arweinydd llwyfan awyddus i gau drysau
Pafiliwn yr Urdd a’r Brifwyl a’r Ŵyl Gerdd Dant.
“Oes 'na rywun yn gwrando arna i?”
Gŵr ei fro – clerc y cyngor plwyf
yn ymhyfrydu ac ymgolli
yng ngogoniant Parc Cenedlaethol Eryri.
“Hwyl i chi ar y tir”.
Bu Dei yno drwy’r degawdau.
O gadernid Ty’n Twll, Nant Peris
deil Dei i hollti’r graig
at deimladrwydd ein profiadau
yng ngrym y cyfweliadau gafaelgar.
Llwydda
â gofal crefftus yr holwr
cywrain ei ymchwil,
i gyrraedd hanfod pob sgwrs.
Heb sentimentaleiddio
na gwag siarad,
cyrraedd canol llonydd y person bob tro.
Hollti’r lechan yn lân.
Aled Lewis Evans.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()
Bardd y Mis: Aled Lewis Evans—Gwybodaeth
Cerddi gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Rhagyr 2015.






