Episode details

Available for over a year
Cerdd gan Nici Beech, bardd preswyl mis Tachwedd, i ddathlu penblwydd BBC Bangor yn 80 oed. Mae Tachwedd yma’n llawn o swyn, â’i hîn eleni braidd yn fwyn Drwy'r niwl ein golwg gaiff ei ddwyn yn ôl i’r dechrau’n deg. I Fangor, a’i Chymraeg yn gry’ Bryn Meirion, noddfa’r BBC O ITMA hyd yr Unnos hir Ie'n Bangor ni fu'n dal ein tir. Tra barodd chwerthin hyd y wlad ein hogia bach a aeth i’r gâd A llais Myfanwy yn dweud 'nos da' Yr unig Gymraeg â chaniatâd Yng ngwawr yr heddwch dros y byd Daeth Noson Lawen â phawb ynghyd I godi hwyl rhwng gŵyl a gwaith Yn des o adloniant gynnes glyd. O'r stiwdio ym Mangor i bob cyfrwng bron Daw storis Bryn Meirion yn don ar ôl ton Yn eiriau o gysur hogia bach I dorri drwy niwl y Dachwedd fwyn hon.
Programme Website