Main content

Dal Dy Dir – Nici Beech yn dathlu penblwydd BBC Bangor

Cerdd gan Nici Beech, bardd preswyl mis Tachwedd, i ddathlu penblwydd BBC Bangor yn 80 oed.

Mae Tachwedd yma’n llawn o swyn,
â’i hîn eleni braidd yn fwyn
Drwy'r niwl ein golwg gaiff ei ddwyn 
yn ôl i’r dechrau’n deg.

I Fangor, a’i Chymraeg yn gry’
Bryn Meirion, noddfa’r BBC 
O ITMA hyd yr Unnos hir
Ie'n Bangor ni fu'n dal ein tir.

Tra barodd chwerthin hyd y wlad
ein hogia bach a aeth i’r gâd 
A llais Myfanwy yn dweud 'nos da'
Yr unig Gymraeg â chaniatâd

Yng ngwawr yr heddwch dros y byd
Daeth Noson Lawen â phawb ynghyd
I godi hwyl rhwng gŵyl a gwaith 
Yn des o adloniant gynnes glyd.

O'r stiwdio ym Mangor i bob cyfrwng bron
Daw storis Bryn Meirion yn don ar ôl ton
Yn eiriau o gysur hogia bach
I dorri drwy niwl y Dachwedd fwyn hon.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...