Episode details

Available for over a year
Fe ddaeth Capten Simon Jones, mab fferm Frongelyn ger Llanbed, adref at ei deulu yn ei awyren yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn rhoi syrpreis i’w ffrindiau a phobl y pentref, ar ôl cyfnod fel peilot yn Ffrainc a’r Almaen. Dros un penwythnos fe gasglodd miloedd o bobl y fro i weld yr awyren “Fokker” oedd wedi ei chipio oddi ar yr Almaenwyr. Yn y clip yma mae Trystan ab Ifan yn olrhain hanes y gŵr hynod yma o Geredigion oedd a’i fryd ar fod yn beilot yn y Rhyfel Mawr. Cychwynnodd ei ddiddordeb mewn awyrennau drwy ryfeddu ar sut roedd yr adar yn medru hedfan mor ddidrafferth, cyn gweld peilot yn hedfan am y tro cyntaf uwchben dinas Caerdydd a glanio ar gaeau Llandaf. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol yr RAF yn ogystal â bod yn beilot a oroesodd y rhyfel pan ar un adeg doedd dim disgwyl i beilot fyw yn hirach na pythefnos. Un penwythnos fe benderfynodd Capten Simon Jones ddychwelyd nôl i fferm y teulu yn Frongelyn, Cribyn ger Llanbedr Pont Steffan, gyda’i awyren. Drwy gyfweliadau gyda aelodau teulu’r peilot mentrus hwn, ynghyd â’i eiriau ef ei hun, cawn gipolwg ar fywyd un o arloeswyr hedfan 100 mlynedd yn ôl. Lleoliad: Fferm Frongelyn, Cribyn, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7NJ Llun: Simon Jones mewn awyren o’r Rhyfel Byd Cyntaf; Simon Jones yn ei awyren; y teulu wedi casglu tu allan i Frongelyn, trwy garedigrwydd Mair Gaunt.
Programme Website