Cribyn, Llanbedr Pont Steffan: Fel gwylan i Frongelyn
Rhoddodd y peilot Simon Jones 'syrpreis' i'w deulu pan ddaeth adref yn ei awyren
Fe ddaeth Capten Simon Jones, mab fferm Frongelyn ger Llanbed, adref at ei deulu yn ei awyren yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn rhoi syrpreis i’w ffrindiau a phobl y pentref, ar ôl cyfnod fel peilot yn Ffrainc a’r Almaen.
Dros un penwythnos fe gasglodd miloedd o bobl y fro i weld yr awyren “Fokker” oedd wedi ei chipio oddi ar yr Almaenwyr.
Yn y clip yma mae Trystan ab Ifan yn olrhain hanes y gŵr hynod yma o Geredigion oedd a’i fryd ar fod yn beilot yn y Rhyfel Mawr.
Cychwynnodd ei ddiddordeb mewn awyrennau drwy ryfeddu ar sut roedd yr adar yn medru hedfan mor ddidrafferth, cyn gweld peilot yn hedfan am y tro cyntaf uwchben dinas Caerdydd a glanio ar gaeau Llandaf.
Roedd yn un o aelodau gwreiddiol yr RAF yn ogystal â bod yn beilot a oroesodd y rhyfel pan ar un adeg doedd dim disgwyl i beilot fyw yn hirach na pythefnos.
Un penwythnos fe benderfynodd Capten Simon Jones ddychwelyd nôl i fferm y teulu yn Frongelyn, Cribyn ger Llanbedr Pont Steffan, gyda’i awyren.
Drwy gyfweliadau gyda aelodau teulu’r peilot mentrus hwn, ynghyd â’i eiriau ef ei hun, cawn gipolwg ar fywyd un o arloeswyr hedfan 100 mlynedd yn ôl.
Lleoliad: Fferm Frongelyn, Cribyn, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7NJ
Llun: Simon Jones mewn awyren o’r Rhyfel Byd Cyntaf; Simon Jones yn ei awyren; y teulu wedi casglu tu allan i Frongelyn, trwy garedigrwydd Mair Gaunt.






