Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2014

TIR MAWR: Cân - Colli

Y Talwrn

Available for over a year

Cefais neges frys o’r sŵ oedd wedi colli Cangarŵ Yn cynnig bron i fil a watsh os cawn i o’n ôl,yn fyw,i’w gratsh R’ôl picio i ‘Spar’ i brynu pys cychwynais am y Sŵ ar frys Gan gydio’n dynn yn fy mhot jam a’r sbenglas ges i gan fy mam. Fe ddois i’r Sŵ ddim tamaid gwaeth a gweld mewn chwinciad i ble’r aeth Doedd ffens y caitsh ond fforffwt thri – roedd wedi neidio drosdi hi O’Stralia ddaeth y creadur ffôl, a’n awr, roedd ar ei ffordd yn ôl Ers ‘chydyg wedi amser te a rhaid oedd cychwyn sdret awê I’w nadu O fy ngwneud i’n rings o dan fy nrhaed fe glymais sbrings â’n ddiymdroi fe ddwedais i “ta-ta” wrth bawb a ffwrdd a fi Gan sboncio dros y tai a’r coed i ddinas Lerpwl yn ddioed Ac yno glaniais gyda gwên, reit rhyngddo fo a’r eroplên Er ei fod o braidd ar frys fe bwyllodd o wrth weld y pys Yn disgyn o fy llaw yn ffri, a dyna oedd fy ngyfle i Drwy’r sbenglas rad o dir Hong Kong edrychais arno drwy’r pen rong Cyn estyn llaw tuag at y brawd a’i ddal o efo ‘mys a’mawd I mewn i’r hen bot jam a fo yn neidio fel rhyw beth o’i go’ Ond d’oedd dim dianc y tro hyn a’r caead ar y pot yn dynn Es ‘nôl i Golwyn Bê bob cam a’r gwych farsiwpial mewn pot jam ‘di sdopio neidio diolch i Dduw ond roedd ei ben o’n lympia’byw Wrth wisgo’r watsh a chyfri ‘mhres. cynnig gair o gyngor wnes. “Cangarw ‘di hwn, ddim buwch ! Gwnewch y ffens ‘na fymryn uwch” Gareth Jôs 9.5

Programme Website
More episodes