TIR MAWR: Cân - Colli
TIR MAWR: Cân - Colli
Cefais neges frys o’r sŵ oedd wedi colli Cangarŵ
Yn cynnig bron i fil a watsh os cawn i o’n ôl,yn fyw,i’w gratsh
R’ôl picio i ‘Spar’ i brynu pys cychwynais am y Sŵ ar frys
Gan gydio’n dynn yn fy mhot jam a’r sbenglas ges i gan fy mam.
Fe ddois i’r Sŵ ddim tamaid gwaeth a gweld mewn chwinciad i ble’r aeth
Doedd ffens y caitsh ond fforffwt thri – roedd wedi neidio drosdi hi
O’Stralia ddaeth y creadur ffôl, a’n awr, roedd ar ei ffordd yn ôl
Ers ‘chydyg wedi amser te a rhaid oedd cychwyn sdret awê
I’w nadu O fy ngwneud i’n rings o dan fy nrhaed fe glymais sbrings
â’n ddiymdroi fe ddwedais i “ta-ta” wrth bawb a ffwrdd a fi
Gan sboncio dros y tai a’r coed i ddinas Lerpwl yn ddioed
Ac yno glaniais gyda gwên, reit rhyngddo fo a’r eroplên
Er ei fod o braidd ar frys fe bwyllodd o wrth weld y pys
Yn disgyn o fy llaw yn ffri, a dyna oedd fy ngyfle i
Drwy’r sbenglas rad o dir Hong Kong edrychais arno drwy’r pen rong
Cyn estyn llaw tuag at y brawd a’i ddal o efo ‘mys a’mawd
I mewn i’r hen bot jam a fo yn neidio fel rhyw beth o’i go’
Ond d’oedd dim dianc y tro hyn a’r caead ar y pot yn dynn
Es ‘nôl i Golwyn Bê bob cam a’r gwych farsiwpial mewn pot jam
‘di sdopio neidio diolch i Dduw ond roedd ei ben o’n lympia’byw
Wrth wisgo’r watsh a chyfri ‘mhres. cynnig gair o gyngor wnes.
“Cangarw ‘di hwn, ddim buwch ! Gwnewch y ffens ‘na fymryn uwch”
Gareth Jôs
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 13/07/2014 - Caernarfon yn erbyn Y Tir Mawr
![]()
TIR MAWR: Englyn yn y dull Arfonaidd - Llaw
Hyd: 00:09
![]()
TIR MAWR: Telyneg ar fydr ac odl - Iard
Hyd: 00:43
![]()
CAERNARFON: Telyneg ar fydr ac odl - Iard
Hyd: 00:58
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29








