Episode details

Available for over a year
Nid wy’n gofyn siwtiau moethus Sidan drud na phwythau mân. Gofyn wyf am socs sy’n matshio, Fest heb dwll a bocsyrs glân. Bocsyrs glân yn llawn daioni Tecach ŷnt na’r un drôns dlos. Dim ond bocsyrs glân sy’n denu. Pâr i’r dydd a phâr i’r nos. Pe dymunwn orig fydol, Chwim ddihangfa ohonynt sydd. Golud bocsyrs glân, rhinweddol Yn dwyn bythol elw fydd. Bocsyrs glân yn fawr eu gofod, Llaciach ŷnt na thangas tynn. Dim ond bocsyrs glân digysgod, Rhai lliw’r eira, eira gwyn. Hwyr a bore yw ’nymuniad A thrwy’r pnawn yn ddiwahan. Diolch i Dduw, ar ran fy nghariad Fod llond fy nrôrs o focsyrs glân. Bocsyrs glân sy’n iswisg berffaith. Llyfnach ŷnt o dan dy glos. Dim ond bocsyrs glân rydd obaith O garu’r dydd a charu’r nos. Arwel Roberts (Gwyneth Glyn yn canu) 9.5
Programme Website