CRIW'R SHIP: Parodi ar yr emyn ‘Calon Lân’
Nid wy’n gofyn siwtiau moethus
Sidan drud na phwythau mân.
Gofyn wyf am socs sy’n matshio,
Fest heb dwll a bocsyrs glân.
Bocsyrs glân yn llawn daioni
Tecach ŷnt na’r un drôns dlos.
Dim ond bocsyrs glân sy’n denu.
Pâr i’r dydd a phâr i’r nos.
Pe dymunwn orig fydol,
Chwim ddihangfa ohonynt sydd.
Golud bocsyrs glân, rhinweddol
Yn dwyn bythol elw fydd.
Bocsyrs glân yn fawr eu gofod,
Llaciach ŷnt na thangas tynn.
Dim ond bocsyrs glân digysgod,
Rhai lliw’r eira, eira gwyn.
Hwyr a bore yw ’nymuniad
A thrwy’r pnawn yn ddiwahan.
Diolch i Dduw, ar ran fy nghariad
Fod llond fy nrôrs o focsyrs glân.
Bocsyrs glân sy’n iswisg berffaith.
Llyfnach ŷnt o dan dy glos.
Dim ond bocsyrs glân rydd obaith
O garu’r dydd a charu’r nos.
Arwel Roberts (Gwyneth Glyn yn canu)
9.5
Hyd:
Mwy o glipiau 06/07/2014 - Criw'r Ship yn erbyn Criw'r Llew Coch
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29









